|
|
Dyfodol ansicr yr arth frown
Anifail a gafodd ei gamdrin gan ddyn yn brwydro am ei einioes gan Lynda Ganatsiou o Wlad Groeg Dydd Gwener, Mehefin 16, 2000
|
Y mae'r Arth Frown yn un o'r anifeiliaid hynny sydd yn wynebu difodiant. Tan y bymthegfed ganrif yr oeddynt i'w gweld ar hyd a lled Ewrop. Diflannu oherwydd hela a dinistrio eu cynefin Maen nhw wedi diflannu oherwydd hela a dinistrio eu cynefin. Dim ond ers ugain mlynedd y gwaharddwyd eu hela yng ngwlad Groeg. Erbyn heddiw dim ond nifer fechan sydd ar ôl a hynny dan warchoedaeth. Dim ond deg sydd ar ôl yn Ffrainc. Mae rhyw hanner cant yn Sbaen ar Eidal fel ei gilydd. Yn yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd eirth yn ardal Pelopponese yn Ne Groeg ond erbyn heddiw dim ond yn ardal Pinddos yng ngogledd y wlad y maent ac mewn ardal arall o'r enw, Roddopi. Dyma un o'r poblogaethau pwysicaf yn Ewrop - tua chant a hanner ohonyn nhw yn crwydror coedwigoedd. Dydi eirth ddim yn ymosod Er yn anifail cryf dydi'r arth ddim yn anifail ymosodol na gormesol. Wnan nhw ddim ymosod ar bobol onibai eu bod yn cael eu bygwth neu i amddiffyn eu cenawon. Ond y mae eirth yn gysylltiad uniongyrchol a hen ffordd o fyw. Maent yn destun chwedlau, traddodiadau a hen hanesion. Nid oes iddynt elynion naturiol - ar wahan i ddyn! Un o anifeiliaid tir mwyaf Ewrop Dyma un o anifeiliaid tir mwyaf Ewrop sy'n magu ei rhai bach ar y deth. Ardaloedd mynyddig yw eu cynefin ac er mai llysiau sydd fwyaf at eu dant maent yn bwyta popeth. Gallant fyw am rhwng 20 a 25 o flynyddoedd. Maent rhwng 1.7m a 2.00m o daldra ar eu deudroed ac yn pwyso rhwng 60 a 250 kgs gan ddibynnu ar eu hoed, rhyw a'r adeg o'r flwyddyn. Gall y benyw eni hyd at dri o genawon - dall a noeth - yn ystod y gaeaf. Os collant eu mam yr adeg hon, byddant farw o fewn 15 i 20 munud. Hyd yn oed dan amgylchiadau arferol rhyw hanner yn hanner yw eu gobaith o fyw drwy eu blwyddyn gyntaf. Cyfreithiau i'w diogelu Rhaid wrth gyfreithiau i sicrhau eu dyfodol erbyn hyn. Gwaherddir eu hela, eu dal a'u niweidio mewn unrhyw ffordd neu wneud unrhyw sioe gyhoeddus ohonynt. Gellir cael blwyddyn o garchar am dorri'r deddfau hyn. Eu defnyddio i berfformio Hyd yn oed ugain mlynedd yn ôl yr oedd yn arferiad defnyddio eirth i berfformio gyda phenffrwyn yn sownd wrth eu dannedd llygaid bregus a'r rheini yn torri i ffwrdd. Byddai dyn yn eu dysgu i ddawnsio trwy eu gorfodi i gerdded ar fetel poeth er mwyn eu harfer i sefyll ar eu traed ôl. Unwaith y byddent yn cysylltu miwsig a phoen byddent yn dawnsio. Roedden nhw'n perfformio ar ddyddiau gwyl. Does dim hawl o gwbl i'w defnyddio fel hyn heddiw a chyda help cyson gan ddyn maent wedi dodi pwysau yn ôl ac adennill greddfau gwyllt a gollwyd. Mae eu hofn o ddyn yn parhau gyda swn y tambwrin yn peri iddynt ffyrnigio. Onibai fod gwarchodaeth yn parhau bydd y symbol hwn o'r gorffennol gwyllt yn diflannu yn fuan iawn os na sylweddolwn y cysylltiad hanfodol rhwng ein bywydau ni a pharhad y goedwig. Mae rhwydd hynt i eirth yn golygu bywyd i ninnau gan fod eu presenoldeb yn arwydd o goedwig iach. Y bygythiadau: Dinisitrio eu cynefin. Defnydd difeddwl o adnoddau naturiol. Tanau yn y goedwig. Adeiladu heolydd newydd yn ddifeddwl drwy goedwigoedd. Datblygiadau technegol difeddwl yng nghefn gwlad. Eu lladd gan ddyn. Hela anghyfreithiol. Masnach genawon syn golygu lladd y fam. Yn ffodus mae yna gymdeithas gyda chynllun i ddiogelu ac astudio yr eirth yn eu cynefin er mwyn eu deall a'u hamddiffyn. Enwr gymdeithas ydi ARCTOUROS sy'n gwneud ymdrech eithriadol i ddiogelu parhad y creadur hwn ar y ddaear. Carwn ddiolch iddynt am ganiatad i ddefnyddio eu lluniau.
|
|