Efallai y dylai pobl dalu mwy o sylw i rai o'n hen benillion! A bywyd bellach wedi mynd yn gymhleth dros ben, manteisiais i ar y pennill hwn: Canu wnaf a bod yn llawen, Fel y gog ar frig y gangen. A beth bynnag ddaw i'm blino, Canu wnaf, a gadael iddo.
Roedd gennyf esgus da dros adael iddo!
Parsel yn y post Pan gyrhaeddodd y dyn post, gwaeddodd o'r gât, Kiria Lynda, parsel bach o dros y môr i ch.i
Mor braf yw derbyn anrheg pan nad ydych yn disgwyl un!
Wedi agor y pecyn, gwelais mai fideo oedd, a'r geiriau Cyngerdd Bryn Terfel ar yr ochr.
A minnau wedi bod wrthi ers oriau mân y bore yn glanhau ar gyfer dyfodiad ymwelwyr o'r Almaen ar gyfer y Pasg pa well esgus dros gael seibiant!
Cofiais am y pennill bach a'i ganu wrth wneud paned cyn eistedd i lawr i wylio'r fideo.
Chwarae teg i'm hen ffrind Coleg, Mari, yn wreiddiol o Henllan ger Castell Newydd Emlyn, sydd wedi bod yn sgrifennu mor ffyddlon ataf ers imi adael yn y saithdegau, am anfon Tân y Ddraig III imi.
Yn sydyn, gwelais Dewi Pws ar y sgrîn a, jiw, jiw, dyna Stan a Sbardun.
Ie, wir, Y Tebot Piws yn perfformio yn fyw ar y llwyfan.
Roedd yn amlwg fod Dewi Pws cyn ddifyrred ag y cofiwn ef yr holl flynyddoedd yn ôl a doedd Stan ddim wedi newid fawr o gwbl llai o wallt a hwnnw ddim cyn ddued ddu. Sylwais fod Sbardun ychydig yn dewach nag oedd pan oeddwn i yn ei adnabod!
Meddyliwch roedd dros 32 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i mi weld y bois ddwetha a hynny pan oeddem yn gyd-fyfyrwyr!
Llwyddais i gadw'r dagrau draw wrth ymuno â Mae rhywbeth o le yn y dre.
Er bod y cyfan o Rhan 1 yn eisiau ar y recordiad fideo yn ogystal â darn o'r ail ran. fe gefais y fraint o glywed Godro'r Fuwch ac Ie, Ie, Na Fe, a'r gynulleidfa yn amlwg yn mwynhau yn fawr iawn wrth gael y cyfle i ymuno.
Cefais fy nifyrru gan Crys ac yna Geraint Jarman. Wrth gwrs, rwy'n ei gofio fel un o'r Bara Menyn gyda Meic Stevens a Heather Jones.
Moddion i'r enaid Ond nid yn unig cefais gyfle i flasu amrantiad o'r gorffennol ond hefyd cefais fy niddori gan rhywbeth mor syml â thrêls rhaglenni i'w dangos yn y dyfodol.
Onid yw'n rhyfedd bod hysbyseb o'r fath yn gallu codi diddordeb rhywun mor bell o gartref a chlywed y Gymraeg yn cael ei llefaru fel moddion i'm henaid a miwsig hudol i'm clustiau!
Ar hyn o bryd, wn i ddim ai'r peiriant fideo ynteu'r tâp wnaiff ddifetha gyntaf, gymaint o weithiau rwyf wedi gwylio'r gyngerdd!!!
Da ydy cael cyfeillgarwch fel un Mari a minnau, yn ogystal â chael y cyfle i ymuno â Chymru fel hyn o bryd i'w gilydd.Dymuniadau a swsus o wlad Groeg i'r Tebot Piws.
|