Y Dorch Cafodd enillwyr y medalau aur, arian ac efydd yng ngêmau Athen 2004 eu coroni â phlethdorch o ddail yr olewydden: hefyd a hynny'n adlais o'r gemau Olympaidd cyntaf a fu erioed.
Dyma'r anrhydedd fwyaf y gellid ei chyflwyno i fabolgampwr yr hen fyd.
Wedi 776 CC cofnodwyd y buddugoliaethau yn yr altis neu'r allt o goed cysegredig yn Olympia, a dyfodd y tu ôl i deml Zeus.
Derbyniodd yr enillwyr y blethdorch olewydd â pharch, gan ddiolch i'r duwiau.
Hyd heddiw, nid oes dim yn fwy anrhydeddus ym myd y mabolgampau amhroffesiynol nag ennill cystadleuaeth Olympaidd.
Cafodd y coronau i gêmau 2004 eu gwneud o olewydd a blannwyd i'r pwrpas hwn yn 1987 mewn gallt o goed ym mharc Goudi ger Athen.
Fodd bynnag, cafodd enillwyr y marathon rai eithriadol o arbennig, wedi eu gwneud o goed yn tyfu ar ynys Creta, ac yn dyddio yn ôl i'n hynafiaeth.
Mae stori ddoniol yn gysylltiedig â hyn.
Bu dau bentref ar yr ynys yn ffraeo am flynyddoedd gyda'r naill yn dweud fod yno goeden hynach nag yn y pentref arall! Y rheswm oedd, fod y ddau bentref am ddarparu'r plethdorchau ar gyfer Olympiaid.
Y ffordd y cafodd y broblem ei datrys gan un o drefnyddion y gemau oedd trwy ddefnyddio dail o'r ddwy goeden - dail o Kavoursio, yn ne'r ynys, ar gyfer torch enillydd marathon y menywod a rhai o Kolybari, yng ngogledd yr ynys ar gyfer torch marathon y dynion!
!Uchafbwynt y drwgdeimlad chwerw oedd un o'r pentrefi yn gofyn i'r llall dorri i lawr eu coeden er mwyn rhifo'r cylchoedd a mynnu gwybod ei hoed, gan sicrhau y byddent hwy yn gwneud yr un peth wedyn!!! Ni ddigwyddodd hynny, wrth gwrs.
.Y mascotau Cyn dewis Athina a Phevos yn fascotau'r gêmau bu llawer o drafod.
.Ymateb y trefnyddion oedd na allai dim fod yn fwy Groegaidd a dewiswyd yr enwau arbennig oherwydd mai Athina oedd duwies Doethineb a addolwyd gan y cyndadau a hithau hefyd yn amddiffynwraig Athen fel gwladwriaeth ddinesig.
Un o'r enwau a roddwyd ar Apollo oedd Phevos (Ffifos), duw y goleuni a cherddoriaeth.
Ar ben hynny ysbrydolwyd y cynlluniwr gan ddol a wnaed o glai yn dyddio'n ôl i'r seithfed ganrif CC ac yn tarddu o'r cyfnod Myceneaidd.
Ond er cymaint y cysylltiadau hynafol bu llawer o waith perswadio ar y cyhoedd !!!
Ond mae'n gwbl resymol credu i blant a dyfodd i fod yn Olympiaid yn yr amser gynt fod yn chwarae gyda doliau o'r fath.
Ac yn wir, calon plant yn hytrach nag oedolion oedd Athina a Phevos yn ei hennill.
Ond y farn gyffredinol oedd eu bod yn debycach i 91热爆r Simpson nag i Phevos a chawsant eu gwatwar yn ddi-baid nes i bobl gyfarwyddo â hwy.
Y medalau Bu'r gwaith o ail gynllunio'r medalau dan ofal Elena Votsi.
Y rheswm am y newid oedd fod symbolau anghywir ar y medalau a'r gwir draddodiad Groegaidd heb ei ddangos.
. Pan ddewiswyd Vosti i wneud iawn am hyn defnyddiodd lun o Stadiwm Panathenaico Kalimarmaro - safle y gemau Olympaidd modern cyntaf - lle'r darlun o'r amffitheatr Rufeinig sy'n adlais o'r Colosseum.
Cynhaliwyd cystadleuaeth am y cynllun gorau, gan fod pwyllgor y gêmau am gael Kalimarmaro a ffurf Nike - duwies buddugoliaeth. Er iddi ymddangos ar y medalau er 1896, darluniwyd hi'n eistedd mewn cerbyd.
Yn ôl y chwedl, disgynnodd hi o'r wybren i ddodi'r dorch ar ben y buddugol.
Felly, ar y medalau newydd, gwelir Nike yn disgyn a'i thraed yn gyntaf gan afael mewn torch.
Tu cefn iddi gwelir stadiwm marmor Kalimarmaro a'r Parthenon yn y pellter.
Yr ochr arall i'r fedal mae'r fflam Olympaidd uechben llinell allan o wythfed telyneg Olympaidd Pindar, a gyfansoddwyd 460 CC yn anrhydeddu buddugoliaeth Alkemedon o Aegina mewn cystadleuaeth ymaflyd yn y gêmau Olympaidd.
Mae hawl gan bob gwlad sy'n cynnal y gemau i newid yr ochr hon gan greu rhywbeth sy'n nodweddiadol iddi hi.
Fodd bynnag bydd yr ochr sy'n dangos Kalimarmaro a Nike, yn aros yr un fath o wlad i wlad
|