A minnau'n edmygu un o luniau merch o Loegr mewn arddangosfa gelf yn un o westai gorau Thessaloniki daeth dyn ataf a chyflwyno ei hun.
Nick Clarke oedd ei enw ac o siarad ag ef sylweddolais mai acen De'r Affrica oedd ganddo.
Dywedodd iddo fynychu'r arddangosfa gan obeithio y byddai gan y menywod o dras Prydeinig oedd yn bresennol feibion oddeutu deunaw oed!
Ei obaith oedd perswadio'r bechgyn hyn i ymddiddori mewn rygbi.
Dywedais wrtho mai o Gymru yr oeddwn i'n wreiddiol ac imi ymweld â De Affrica pan oedd y Llewod Prydeinig yn chwarae yno yn '74.
Pwy fyddai wedi meddwl yr adeg honno y byddwn i, menyw o Gymru, yn trafod rygbi gyda dyn o Dde Affrica ym mherfeddion Gwlad Groeg yr holl flynyddoedd wedyn?
Glynu fel gelen Pan sylweddolodd fod gennyf innau fab o'r oed iawn roedd yn awyddus iawn i'w rwydo i mewn!
A phan glywodd i Andreas fynychu prifysgol Abertawe cymrodd yn ganiataol y byddai'n hyddysg iawn yn y gêm.
Â'r gath yn awr allan o'r cwd, glynodd wrthyf fel gelen gan gredu iddo ddarganfod gem!
Fodd bynnag, eglurais na fyddai Andreas ar gael am flwyddyn a hanner oherwydd gwasanaeth milwrol ond, â'r brwdfrydedd yn ffrydio yn ei waed, ni welai Nick unrhyw anhawster yn hynny ac yntau mor anfodlon i adael i'r enghraifft berffaith hon lithro o'i afael.
Rhoddodd ei gerdyn imi gyda siars i gysylltu ag ef ar ôl imi siarad ag Andreas.
Llwyddiannau fyrdd Yn dilyn holl lwyddiannau'r Groegiaid eleni nid oes dim all dorri eu calon bellach: Tîm o ddringwyr yn cyrraedd copa'r byd fis Mai.
Ein tîm pêl-droed yn ennill Ewro 2004.
Ac wedyn yr hwb fawr o lwyfannu'r Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd.
Yn sgil hyn oll, penderfynwyd mai da o beth fyddai cynnwys y bêl hirgron ar y rhestr o bethau i'w concro nesaf!
Dweud a gwneud! Ganol y mis diwethaf bu rownd agoriadol o gemau yn y brifddinas - cam cyntaf undeb dibrofiad sy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at gemau rhyngwladol.
A phwy a ŵyr, lle yng ngornestau Cwpan Rygbi'r Byd rhyw ddydd!
Yn wir, gobeithir cael tîm cenedlaethol yn barod erbyn y flwyddyn newydd ond rhaid yn gyntaf fydd cael ein derbyn gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.
I sicrhau hynny bydd yn rhaid wrth dîm cenedlaethol a all gystadlu â gwledydd eraill.
Y clwb cyntaf Hir pob aros, a bu sefyll yn hir cyn cael undeb oedd wedi'i drefnu'n iawn.
A dweud y gwir, sefydlwyd y clwb cyntaf yng Ngroeg - yr Athens Spartans, yn ôl yn 1982, ond chwarae yn erbyn criwiau'r llongau oedd yn ymweld â'r lle oedd y Spartans gan deithio yn Ewrop yn unig.
Ac i'r Spartans roedd y cwrw cyn bwysiced, os nad pwysicach, na'r gêm ei hun!!
Yr wythnos diwethaf cefais fy syfrdanu o weld hysbyseb yn y papur newydd yn sôn am sesiwn ymarfer y Spartans gyda rhif ffôn i rai gyda diddordeb gysylltu.
O ddifrif Heb amheuaeth, mae rygbi'n cael ei gymryd yn fwy o ddifrif y dyddiau hyn ac o'r diwedd mae ganddyn nhw sesiynau ymarfer cyson, bagiau yn cynnwys yr offer a thaclau a nawdd gan gwmnïau.
Er bod y gêm yn dal yn ei babandod, gyda physt gôl yn cael eu codi dros dro cyn pob gêm, mae pethau yn gwella.
Yn nhref Thessaloniki sefydlwyd y Thessaloniki Spartacus ac ymhen y misoedd nesaf gobeithir gweld cychwyn y Colossi o Rhodes.
Ar ben hyn mae yna ddau dîm dan 18 oed.
Fodd bynnag, ymhlith aelodau o brif genhedloedd rygbi'r byd y mae'r chwarae yn ffynnu ac ofnir na fydd digon o frwdfrydedd ymhlith y Groegiaid eu hunain er cymaint o newid a welwyd yn agwedd y bobl tuag at chwaraeon yn gyffredinol yn dilyn llwyddiant yn y gemau Olympaidd.
Yn sydyn, deffrowyd y wlad i feddwl; "Rydym ni gystal mewn chwaraeon ag unrhyw wlad arall."
A hwythau'n chwilio am rywbeth newydd, maent wedi sylweddoli nad yw rygbi mor anwar ag yr ymddengys ar y teledu.
Beth bynnag, maent yn caru chwaraeon caled yn gyffredinol a does dim rheswm yn y byd, felly, pam na all rygbi lwyddo yma - yn enwedig pan ystyrir mai Groegiaid pur yw oddeutu 60% o'r chwaraewyr.
Yr ysgolion Erbyn hyn, chwaraeir y gêm mewn o leiaf ddeg o ysgolion preifat ac mae'r llywodraeth yn trafod ei chyflwyno i'r ysgolion cyffredin.
A chyda llawer o Roegiaid wedi mynychu prifysgolion ym Mhrydain mae ganddyn nhw rywfaint o dealltwriaeth o'r gêm yn barod.
Maen nhw'n obeithiol iawn ei bod yn gêm fydd yn apelio at y bobl ac yn gêm fydd yn gwreiddio yma maes o law.
Gobeithio y mae ei chefnogwyr na ddigwydd yr un peth i rygbi ac a ddigwyddodd i bêl-fas a ddaeth yma gyda'r gemau Olympaidd ond a fu farw'n syth wedyn.
Efallai, gyda'r rheolwyr cywir, y gall rygbi fod yn gymaint o gêm a phêl-foli sy'n cael ei hystyried yn gêm fawr yma yng Ngroeg gyda dilynwyr ffyddlon ac a ystyrir yn drydydd o ran poblogrwydd yn dilyn pêl-droed a phêl-rwyd.
Y freuddwyd fawr yw cael y stadiwm Olympaidd yn orlawn i weld Gwlad Groeg yn curo Lloegr yng ngêm derfynol Cwpan y Byd!
Yn y cyfamser rhaid efelychu'n gyntaf y cynnydd a welwyd mewn gwledydd fel Rwmania, Georgia ac, wrth gwrs, yr Eidal, sydd bellach yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bu'r Eidalwyr yn chwarae am dros hanner can mlynedd y Groegiaid ond ers dwy flynedd o ddifrif!
Bydd yn llwybr caled ond pwy a ŵyr na allant gyrraedd yr un pinacl a Chymru rhyw ddydd. A fo ben bid bont!
|