Nid anifeiliaid yn unig sydd yn marw o'r tir ond hen arferion hefyd. Yn eu plith, yng Ngwlad Groeg, y mae offeryn cerdd hynod sy'n rhan o draddodiad y wlad. Yn ddiweddar bu Lynda Ganatsiou, Cymraes o Bontarddulais yn wreiddiol ond sy'n awr yn byw yng ngwlad Groeg mewn noswaith diwylliannol lle cafodd hanes y Laterna. Beth yw'r Laterna? Offeryn cerdd gyda thannau y byddai cerddor yn ei gario ar ei gefn o le i le. Erbyn hyn, dim ond dynion mewn oed a welir yn cludo'r offeryn sy'n cael ei alw hefyd yn organetto - organ fach, neu hyd yn oed romfia, sydd yn adlais o'r cynhyrchwr Eidalaidd Pombia. Daeth yn gyntaf i Gonstantinopl (Istambwl ), drwy'r Eidal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Mewnforiwyd rhai offerynnau o'r Eidal, a chanwyd hwy gan ddifyrwyr stryd, yn nhrefi Groeg a Gorllewin Twrci. O ddwy brifddinas yn Asia Leiaf, Constantinopl a Smyrna (Izmir), lle'r oedd cymdeithasau Groegaidd cryf a llwyddiannus lledaenodd y ffasiwn yn araf bach i Athens drwy Pireus ac hefyd i Fwlgaria, Rwmania a Serbia. Cyrhaeddodd llawer ohonynt borthladd gogleddol Groeg yn Thesssaloniki a phrifddinas Y Sicladau - Syros. Erbyn hyn, fodd bynnag, fe ystyrir y Laterna neu Organ y Gasgen, yn offeryn Groegaidd. Mewn oes pan nad oedd y ffonograff wedi ei ddyfeisio prif ffordd y cyfansoddwyr o ledaenu eu caneuon oedd drwy ddefnyddio'r Laterna gyda sicrwydd y byddai pob cân newydd yn llwyddiannus os y'i hargraffwyd ar Laterna gyda'r trowr bob amser yn sicrhau fod ganddo ganeuon a hoffai ei gynulleidfa. Ar drol Addaswyd y Laterna i ateb gofynion y sawl oedd yn ei gludo. Fe'i hysgafnhawyd, cafodd ffrâm bren a strapiau. Gosododd rhai o'r cantorion y Laterna ar drol i'w gwthio o le i le. Y dyddiau gynt, roedd ail berson yn cyfeilio i'r trowr gan ganu'r deffi, tambwrin. Gyda'i gilydd byddai'r ddau yn creu deuawd glasurol. fewn y bocs mae dyfais seml i chwarae'r darnau miwsig gyda silindr yn troi pan fo cranc yn cael ei droi. Ar wyneb y silindr mae pigau main sydd yn symud system o forthwylion gan beri iddynt daro tannau metel I greu nodau pêr o fiwsig!
Geneth dlos Ar du blaen blaen yr offeryn yr oedd yn arferiad cael llun geneth dlos wedi ei haddurno ag unai flodau go iawn neu rai ffug o bapur. Os nad oedd merch byddai'r cantor yn gosod llun ei gariad ei hun. Hefyd, er mwyn gwneud yr offeryn yn fwy prydferth, byddai lliain melfed gyda thaselau. Oni bai fod y trowr yn troi y cranc y cyflymder iawn i'r dôn byddai'r swn yn arswydus! O dro i dro, byddai tincian cloch mewn ymgais i wneud y miwsig yn fwy pleserus fyth. Oherwydd y mecaniaeth dim ond rhyw bedair neu bump o ganeuon ellir eu chwarae ar y Laterna gan fod rhaid cael silindr gwahanol i bob darn. Yng ngwlad Groeg yr oedd cariad mawr at y Laterna ymhlith y bobl a lledodd ei boblogrwydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond heddiw, yn anffodus, mae'r offeryn bellach yn un anghyffredin gyda dim ond pump neu chwech ohonyn nhw ar ôl. Rwy'n hapus iawn i mi gael y fraint o weld un o'r offerynnau anarferol yma.
|