gan Lynda Ganatsiou, Cymraes o Thessaloniki, Gwlad Groeg Y Therina Ystyr therinos ydy haf ond yng Ngwlad Groeg mae'n golygu sinema yn yr awyr iach hefyd. Ac os dowch yma ar eich gwyliau mae'n rhaid mynychu un! Yn Athen yn unig, mae yna dros gant o oasis bychain sy'n agor eu drysau yn ystod Mai a Mehefin. Dyfodol ansicr Yn anffodus, y blynyddoedd diwethaf, mae'r therina wedi gorfod wynebu cystadleuaeth y policinema neu'r muliplex. Y llynedd, gwelodd yr holl sinemâu awyr agored a oedd wedi sicrhau y ffilm The Mummy eu cwsmeriaid yn cael eu hudo gan y policinema gyda llawer o sinemau agored a oedd wedi ymrwymo i arddangos y Mummie am wythnosau yn cael eu maglu Fu'r tywydd ddim help ychwaith gan inni gael cymaint o law ym Mai. Heblaw am hyn, mae'r ffaith fod ffilm yn ffasiynol neu beidio yn bwysig a pha gynulleidfa maent yn anelu ati. Gydag amheuon o'r fath ar y gorwel, mae llawer o berchnogion therina yn pryderu am y ddyfodol. Yn ddiweddar ymwelais a thref Sefil, yn Sbaen; lle'r oedd yna unwaith lawer o sinemâu agored. Heddi nid oes yr un yno a digwyddodd yr un peth mewn trefi yn yr Eidal a Thwrci hefyd. Mae hynny'n drueni ac rwy'n rhagweld na fydd mwy nag 20 o sinemâu hafaidd yng Ngwlad Groeg. Y rhai diogelaf ydy'r rhai a gymerwyd drosodd gan gynghorau lleol gan nad yw maint y gynulleidfa mor bwysig. Naws cwbl wahanol Rwy'n cyfrif fy hun yn lwcus dros ben yn byw yma yn Thermi ac yn gallu eistedd allan fin nos yn gwylio ffilmiau er eu bod, gan amlaf, yn rhai a ddangoswyd yn ystod y gaeaf yn y sinemâu cyffredin.
|