Dydi crwydror byd ddim heb ei drafferthion - a does neb yn gwybod hynny yn well na Lynda Ganatsiou, Cymraes o Bontarddulais yn wreiddiol, ond yn awr yn byw yng Ngwlad Groeg. Bu hi yn son wrth Gymru'r Byd am rai or helyntion a gafodd wrth deithio. Pan yn Stockholm nid yn unig cafodd ei thrwydded deithio ei dwyn ond aeth y "perchennog newydd" i mewn i'r ystad frenhinol efo hi. "Pan gafodd ei hatal a'i holi fe dynnodd allan ei thrwydded deithio Brydeinig a phawb yn darllen am Lynda Jones ym mhlas y Brenin yn y papurau dyddiol drannoeth; a minnau druan bach, heb fod yn agos i'r lle," meddai Lynda. 'Fy ngwylio yn Lenningrad' Ond dim ond dechrau gofidiau oedd hynny: "Wedi cael trwydded newydd, fe deithiais i Lenningrad, ar awdurdodau yn fy ngwylio fel rhywun gweddol od am rhyw rheswm!! Roedd mynd i mewn yn haws na gadael. Pan geisiais fynd oddi yno i Fosco, gadawsant i weddill y grwp fynd, ond pederfynodd y gwarchodlu fy nal i yn ôl, (mam fach!!) gan fod y rhan yma o'r tocyn ar goll. Diwedd y gân oedd iddynt fy ryddhau ond dim ond wedi oriau o holi." "Yna, helynt yn yr eglwys am imi wrthod cusanu llaw yr Unben!! Teimlais fel Daniel yn cael ei daflu i ffau'r llewod, am iddo beidio addolir delw!!! Dilyn y lleidr "Digwyddiad arall oedd lladrad yn fy llety. Y diwrnod canlynol fe welais fenyw yn gwisgo fy nghôt. "Sut roeddwn yn gwybod mai fy nghôt i oedd hi? Wel, roeddwn wedi ei gwnio fy hun. Felly, dyma fi dan ddylanwad Conan Doyle yn newid fy ngalwedigaeth ac yn troi yn Sherlock Holmes Rhif 2 !!! "Dilynais y ddynes hon i fynyr grisiau marmor oer, gan nodi y cyfeiriad y bu iddi fynd iddo; cuddio wrth i ddrws y fflat agor, a chlustfeinio y tu allan ar ôl iddo gau. "Rhedais nerth fy nhraed i alwr Heddlu, ond rhaid oedd sefyll ddydd yn hwy i gyhoeddi papur archwilio. Diwedd yr helbul oedd i'r lladron werthu fy mhethau personol er mwyn cael arian i brynu cyffuriau a'r unig beth allai'r Heddlu ei wneud oedd diolch imi am ddarganfod cylch newydd o fasnachwyr cyffuriau na wyddent amdano!" Priod â Groegwr Erbyn hyn yn briod a Groegwr eglurodd Lynda mai ffurf fenywaidd o Ganatsios yw Ganatsiou. Wedi gadael Pontarddulais bu'n astudio yng Ngholeg Addysg Caerdydd, (1970 1973) ac yn dysgu yno am flwyddyn cyn codi ei hadain. "Gyntaf oll, yn 1974, fe fum am fis yn Ne Affrica ac wedyn yn athrawes dysgu Saesneg fel ail iaith i oedolion yn Stockholm, Sweden. "Er bod y gwaith hwn yn fendigedig roedd hedfan wedi cael y gorau arnaf ac nid oedd stopio yn awr a cheisiais am swyddi yn Awstralia ac yn Nhoronto, Canada. "Fe gefais fy nerbyn yn y ddau. Fodd bynnag, wedi bod yn Stockholm am ychydig fisoedd yn unig cwrddais a Groegwr bach or enw George. "Fe fu i George wneud argraff go fawr arnaf, maen debyg. Do wir, fe gipiodd fy nghalon.!!!! "Roedd yntau yn astudio yr adeg hon. Felly, fe roddais heibio y syniad o fynd i Awstralia a Chanada ac ymestyn fy nghytundeb yn Stockholm am flwyddyn fel y byddai tymor George a fy nghytundeb i yn dirwyn i ben yr un pryd." I Wlad Groeg yr aeth y ddau wedyn. "Rwyf wedi bod yma ers Awst 1976 ac yn byw mewn pentref bach or enw Thermi y tu allan i dref Thessaloniki, yng ngogledd y wlad. Fe fu inni briodi flwyddyn yn ddiweddarach, yn Awst 1977. "Rwy'n dal i ddysgu Saesneg fel ail iaith, 'does dim gofyn am yr iaith Gymraeg yng Ngwlad Groeg !!!! "Gyda llaw, mae yna dair merch o Gymru yn byw o fewn pump i ddeng munud or ty. Fodd bynnag, Cymry 'dwad' ydyn nhw a ddim yn siarad yr iaith. Cadw cysylltiad a Chymru "Mae gennym ferch, Ioanna, yn gwneud ei gradd eleni ym Mhrifysgol Leeds. Newydd gael ei derbyn i wneud MSc yn yr adran Civil Engineering i wneud Waste Management, fe fydd yn dal yno y flwyddyn nesa. "Wedi bod yng Nghymru bob blwyddyn er eu geni, mae'r plant yn teimlo atynniad cryf ir wlad, ac yn falch o ddweud eu bod yn hanner Cymry a hanner Groegiaid. "Pan ddaeth tro Andreas i fynd ir brifysgol dewisodd Abertawe ac mae ar hyn o bryd yn gorffen ei flwyddyn gyntaf mewn Peirianneg Cemegol ac yn teimlo'n hollol gartrefol yno. "Cartref oddi cartref," meddai. "Gallwch ddychmygu pa mor braf oedd darllen y newyddion yn y Gymraeg arlein am y tro cynta gan nad oes fawr o gysylltiad gennyf ar iaith bellach. Does neb i siarad Cymraeg â mi yma. "Er imi fod oddi cartre am dros bum mlynedd ar hugain bellach, bydd hiraeth yn codi arnaf o bryd i'w gilydd - yn enwedig ar fore Sul wrth ddodi corau meibion ymlaen i ganu rhai o emynau enwocaf Cymru. "Ond, ni ddaw ddoe byth yn ôl ac ni welaf fy hun yn dychwelyd i Gymru fwyn ond daw ambell i linell im hatgof nawr ag yn y man, yn enwedig y rhain : Cymru fach i mi Bro y llys a'r llynnoedd Corlan y mynyddoedd Hawdd ei charu hi Yna: - Gwell na thiroedd hud ydyw erwau Cymru Cysegr, salm ac emyn Porth y nef yw hi."
|