Nid yw'n wir fod yr haul yn tywynnu'n wastad, yma yng ngwlad Groeg ac os mai hynny glywsoch chi, celwydd ydio!
Ar rai adegau o'r flwyddyn gall pentrefi fod dan bedair metr a mwy o eira.
.Wrth gwrs, mae tywydd o'r fath yn effeithio ar fywyd gwyllt yn ogystal â phobl.
Mae i bob tymor ei harddwch ei hun a does dim golygfa harddach na mynydd Hortiatis dan gaenen o eira.
Ac, a hithau'n nosi, gallwch ddychmygu'r bleiddiaid yn udo ar y lloer.
Eryr yn galw Un peth na fun rhaid i mi ei ddychmygu y gaeaf diwethaf, fodd bynnag, oedd ymweliad eryr âr caeau gerllaw.
Eryr enfawr allan o'i gynefin yn chwilio am fwyd wedi ei orfodi i ardaloedd is oherwydd y tywydd.
Er nad Condor yr Andes mo hwn y mae'n aderyn golygus iawn sy'n haeddu cael ei alw'n Frenin yr Adar!
Heb os, mawreddog ydyr gair mwyaf addas iw ddisgrifio ac yn gwbl wahanol yn ei gynefin o gymharu ag mewn sw!
Fem cyfareddwyd o'i weld ar ei ehediad gyda'i adenydd ar agor oddeutu 85 sentimetr.
Fel ysbryd du Cefais fraw eithriadol un diwrnod pan ehedodd yn isel dros y pwll nofio a oedd yn wâg ar wahan i ychydig o ddwr glaw yn lloches i ambell froga.
Yng ngoleuni'r haul taflodd gysgod annisgrifiadwy a anfonodd ias drwyddaf.
Roedd fel pe byddai rhyw ysbryd du, anferth, wedi mynd heibio.
Yr adeg honno, nid oedd Ben, y ci bach, ond rhyw chwech wythnos o oed ar y pryd ac ofnwn am ei fywyd.
Nofio yn yr awyr Rhyw ddwywaith y gwelais i'r aderyn wedyn y tro cyntaf yn gymwys yn yr un fan ond ar fore arall yr oedd yn esgyn yn uchel yn y nefoedd yn nofio ar yr awyr dros y llechweddau cyfagos gan roi ysgydwad nerthol iw adenydd bob hyn a hyn a'i blu sylfaenol ar ogwydd fel bysedd ar led.
Ddiwrnod arall, lwc oedd imi fod ar lawr uchar ty ai weld eto. Cythrais am yr ysbienddrych a gweld yr aderyn yn glir gan gynnwys ei big nodweddiadol a'r manylion ysblennydd na allair llygad noeth eu gweld or pellter yma.
Eiliad werthfawr Eiliad yn unig o edmygedd a gefais fodd bynnag, gan iddo syrthio fel carreg i ddal rhywbeth mewn cae oedd tu draw i'r coed.
Er mai ond eiliad oedd hon yr oedd yn eiliad na ddaw i ran ond ychydig iawn o bobl a gallaf gyfrif fy hun yn berson ffodus iawn gan nad yw'n hawdd dod ar draws y fath aderyn y dyddiau hyn âi gynefin wedi ei anrheithio gan gynnydd.
Ond mae gen innau hawl i obeithio y dychwel eto y gaeaf nesaf. Cawn weld.
|