91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Cofiwch Dryweryn Y wlad a'i phobl
Tachwedd 2006
Yn ystod yr wythnosau diwethaf rhoddwyd tipyn o sylw gan y cyfryngau i gyflwr y ddau air 'Cofiwch Dryweryn'.

Maent wedi eu peintio ar dalcen hen dŷ hanner ffordd rhwng pen lôn Llanddeiniol a phentref Llanrhystud. Mae'r wal yn dadfeilio gan effeithiau'r tywydd ac mae un llythyren yn llythrennol wedi llithro i ffwrdd.

Mae degawdau ers i rai fyw yn y bwthyn to gwellt ond mae coeden lelog yn blodeuo yn yr ardd bob blwyddyn. Cofiwn am Mr Ben Mitchel a anwyd ac a fu fyw yna nes i'w deulu symud i Tynlon ar dir Moelifor. Ymddeolodd Ben i Lanrhystud ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'i oes yn Llundain. Bernir mai crwydryn achosodd i'r tŷ fynd ar dân gan adael y welydd yn agored i'r elfennau.

Wedi'r sylw ar y teledu daethpwyd i wybod pwy a fu'n gyfrifol am beintio'r slogan neu'r graffiti yn y lle cyntaf. Cyfaddefodd Meic Stephens - yr Athro, nid y canwr o Solfach. Erbyn hyn nid ystyrir y peth yn graffiti ond yn slogan, yn wir yn gofeb genedlaethol eiconaidd. Mae mewn man amlwg iawn hanner y ffordd rhwng Bangor ac Abergwaun ar ochor y briffordd A487.

Mae'r paent wedi llwydo ar adegau ond bu rhywrai yn ei ailbeintio. Gwyddom am un bachgen a adawodd ei farc. Roedd Rhys ap Hywel, un o blant athrylithgar Garn Fach, Llanrhystud yn ddisgybl yn Ysgol Penweddig pan ailbeintiodd y geiriau. Daeth ei athrawes Gymraeg i wybod a dweud wrtho nad oedd wedi treiglo y `T' yn 'Tryweryn' ac mai 'I' oedd yn lle `Y'. Efallai ei fod yn peintio yn y nos ac yn nerfus ond aeth yn ôl i gywiro a pheintio R.H. Sori Miss! A ddywedodd Miss rywbeth am y gair mwngrelaidd SORI?! Rhys yw'r cymeriad Jason yn Pobol y Cwm.

Mae union ugain mlynedd ers agoriad swyddogol yr argae yn Nhryweryn. Mae llawer ohonom yn cofio'r protestio yn erbyn bwriad dinas Lerpwl i foddi'r cwm a phentref Capel Celyn. Gwyddom i Aelodau Seneddol Cymru, ar wahân i un, bleidleisio yn erbyn y Mesur yn y Senedd yn Llundain ond llwyddodd Lerpwl i gael y maen i'r wal. Trowyd 70 o bobol o'u cartrefi a chollodd llawer eu bywoliaeth. Bu i'r ddinas dwyllo gan nad oedd angen y dŵr ar ei thrigolion ond yn hytrach i ddibenion diwydiannol. Gellid bod wedi cael dŵr i'r diben hynny o'r afon Merswy.

Diau i'r ecsploetio annemocrataidd hwn fod yn drobwynt yn hanes Cymru. Beth yw gwerth cofio ymhen deugain mlynedd? Union bedwar can mlynedd i eleni bu farw Guto Ffowc - fe'i dienyddiwyd am iddo, meddir, fwriadu cynnau ffiws y ffrwydron o dan adeiladau'r Senedd yn Llundain. Cofio am a dathlu rhywbeth na ddigwyddodd, a'r wlad yn dân gwyllt golau bob blwyddyn! Fe ddywedodd un wrthyf wythnos ddiwethaf (a'i dafod yn ei foch gobeithio) fod angen bom o dan y Senedd gecrus a chostus yng Nghaerdydd!

Bob blwyddyn mae'r Cadoediad yn cael ei goffau yn ddifrifol ymhobman drwy'r Wlad a gyda phomp i'w ryfeddu mewn mannau yn Llundain. Cofio clwyfo a lladd miliynau o fechgyn a merched yn y lluoedd arfog, pobol mewn dinasoedd, a dinistrio cartrefi ac adeiladau hanesyddol. Nid oes fawr neb wedi dysgu wrth gofio dinistr torcalonnus ac oferedd rhyfela. Ddoe cyhoeddwyd y posibilrwydd o sefydlu Academi Filwrol yn Sain Tathan ar gost a fyddai'n fwy na holl gyllideb Senedd Cymru ar gyfer addysg, gofal am iechyd, y ffyrdd, ffermio a'r amgylchedd ac yn y blaen.

Mae Prif Weinidog Prydain a'i fryd ar gael taflegrau niwclear yn lle'r rhai sydd erbyn hyn yn hen ac yn hen ffasiwn am gost o bump ar hugain o filiynau o filiynau o bunnoedd. A bydd angen llongau tanfor newydd i'w cario ac i'w saethu -at bwy? Mae'r gwario tu hwnt i'n dirnadaeth tra mae miloedd yn marw bob dydd oherwydd newyn ac afiechyd. Mae ymchwil meddygol a chael ambiwlans awyr yn dibynnu ar gardod! Byd ynfyd annheg a thrist sydd ddim yn dysgu.

Mae yna gynllunio i osod cofeb ger Tryweryn un fawr o efydd ar ffurf alarch. Mae John Meirion Morris wedi ei gomisiynu i wneud y gwaith. Bydd y cyfan yn costio tua £200,000 ac mae yna bobol wrthi yn creu cronfa o arian. Ni fydd yn costio llawer i adfer y gofeb yn ein hardal ni. Rhaid diolch i berchnogion fferm Tregynan Isaf am eu cydweithrediad gyda'r trefniadau. Mae'r Cyngor Cymuned wedi cael cynnig rhoddion eisoes tuag at y gost o gryfhau ac adfer y gofeb.

Mae deugain mlynedd hefyd ers trychineb Aberfan pan gollodd 144 eu bywydau. Fe ddylai'r Bwrdd Glo fod wedi'i herlyn am yr hyn a elwir heddiw yn `corporate manslaughter' Oni ddylai Lerpwl fod wedi ei herlyn am `corporate theft'? Ni ddigwydd y pethau hyn byth eto. Oni ddylai dŵr Cymru fod yn adnodd naturiol i'w werthu? Nid yw'r Arabiaid yn rhoi'r olew o'u daear am ddim i neb. Mae'n debygol y bydd dŵr yn fwy gwerthfawr nag olew yn y dyfodol ac yn achos rhyfela.

O gymharu â rhai o'r pethau a goffeir yn ystod y mis hwn mae achub y gofeb COFIWCH DRYWERYN yn ymddangos yn fater gweddol ddibwys ond mae yna deimladau cryf o blaid ei diogelu i atgoffa cenedlaethau'r dyfodol i'w rhybuddio ac i'w sbarduno i barhau i fod yn 'wylwyr ar y tir'. Drwy esgeulustod yr aeth Cantre'r Gwaelod o dan y dŵr.

J. R. Morris

  • Sgrifen ar y Mur: Dr Meic Stephens yn ysgrifennu am y noson pan beintiodd y slogan enwog

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý