Mae'n rhaid bod cannoedd o filoedd o bobol, a mwy, wedi gweld y geiriau 'Cofiwch Dryweryn' ar y wal wrth ochr y ffordd rhyw filltir i'r gogledd o bentref Llanrhystud.
Erbyn hyn mae'n rhan o bleser y daith o'r Cei Newydd i Aberystwyth i gadw llygad mas am yr adfail a'r llythrennau mawr gwyn, rhywbeth i esbonio i'r plantos neu ffrindiau sydd ddim yn gyfarwydd 芒'u hystyr.
Ni ddylai fod angen atgoffa'r Cymry am y sen a'r anghyfiawnder, yr ing a thristwch, sydd ynghlwm wrth yr enw Tryweryn, ond mae wastad rhywun, yn enwedig y rhai sy'n rhy ifainc i gofio'r '50au hwyr a'r '60au cynnar, sydd ag angen am y ffeithiau. Mae'r slogan yn sbardun eitha' effeithiol i adrodd yr hanes trist drachefn.
Mae gyrru heibio'r wal, sy'n perthyn i hen fwthyn Troed-y-rhiw, wastad yn rhoi pleser arbennig imi, ac mae'n rhaid arafu er mwyn gwerthfawrogi ceinder y geiriau trawiadol. Wedi'r cyfan, dyma fy natganiad enwocaf, fy ngherdd fwyaf adnabyddus, fy ngweithred boliticaidd mwyaf dylanwadol.
Ie, fi wnaeth y paentio, gyda fy mrwsh bach i, rhyw bryd yn ystod 1963 neu 1964. Ni fedraf bod yn si诺r am y flwyddyn, gan nad oeddwn wedi nodi'r achlysur yn fy nyddiadur, am resymau amlwg. Ond rwy'n cofio'r noson yn glir. Cofiaf hefyd pwy oedd gyda fi ym mherfedd y noson dywyll honno, er nad wyf yn barod i'w enwi.
Nid dyma'r slogan gyntaf imi ei phaentio. Gydag eraill, roeddwn wedi bod yn brysur ledled y wlad ers tro. Dewis paentio waliau oedd ein hoff dacteg oherwydd nid oedd gan Plaid Cymru yr hawl i ddarlledu, felly dyma un o'r ychydig gyfryngau i ledaenu'r neges genedlaethol. Cawsom ein dal ddim ond unwaith: ym Merthyr Tudful, lle roeddem wrthi'n paentio 'Lift the TV ban on Plaid Cymru' ar wal hir castell Cyfarthfa pan ddaeth car yr heddlu heibio. Cawsom ddirwy o 拢12 yr un - swm sylweddol yn y dyddiau hynny - a dalwyd gan rhywun sydd wedi aros yn ddi-enw hyd heddiw.
Amcan ddeublyg oedd gyda ni yn paentio ger Llanrhystud. Roeddem am atgoffa'r Cymry am y brad a'r dioddefaint, y dig, yr ing a'r chwalfa, oedd wedi cymryd lle pan gafwyd yr hawl gan Gorfforaeth Lerpwl - yn groes i farn gyhoeddus yng Nghymru - i foddi Capel Celyn a gwneud cronfa dd诺r i Lannau'r Mersi, a hynny heb dalu dimai coch amdani.
Ar yr un pryd, roeddem am rybuddio ein cyd-wladwyr i fod yn wyliadwrus rhag i'r un peth ddigwydd eto. Roedd boddi Cwm Tryweryn yn drobwynt yn hanes ein gwlad a charreg filltir yn nhwf cenedlaetholdeb gwleidyddol. Yn wir, dyna paham yr ymunais i 芒 Phlaid Cymru, ynghyd 芒 miloedd o bobol eraill: roedd rhaid i Gymru gael gafael ar ei thynged ei hun.
Rhaid cyfaddef rhywbeth arall: nid yr un yw'r slogan sydd ar y wal y dwthwn hwn 芒'r hyn a baentiais i yn 么l yn 1963/4. Mae dwylo eraill wedi bod wrthi yn adnewyddu'r geiriau o dro i dro, diolch iddynt. Rhaid nodi hefyd fy mod i wedi paentio'r gair 'Tryweryn', nid y 'Dryweryn' sydd yno bellach. A dyna oedd sillafiad y llu o slogannau tebyg a welwyd ym mhob cwr o Gymru yn ystod y '60au: 'Cofiwch Tryweryn'. Mae rhywun 'smala wedi ychwanegu'r geiriau 'Sori, Miss' i ymddiheuro am y treiglad anghywir. Ond erbyn 1982, pan baentiodd Aneurin Jones ei lun gwych o'r murddun, 'Dryweryn' oedd y sillafiad.
Bid hynny fel y bo, rhyfedd meddwl bod gwaith fy nwylo i wedi mynd, meddir, yn 'eicon genedlaethol' ac hyd yn oed yn 'rhan o'n treftadaeth' y mae'n rhaid ei gadw ar bob cyfrif. Byddai'n hyfryd o beth pe bai rhywun yn mynd ati i gasglu arian i dalu am atgyweirio'r wal - buaswn yn anfon y t芒l am y pwt bach hwn i gefnogi'r achos.
Dr Meic Stephens