Dydd lau 5 Tachwedd oedd dyddiad cychwyn arbrawf wÅ·n hyrddod y Gymdeithas.
Daeth 17 o aelodau a 39 o hyrddod. i'r prawf, a daeth hwn i ben Ddydd lau, 15 Ebrill yn Ffald Penpompren, Talybont.
Y pwrpas yw ceisio gwella cynnyrch y ddafad Gymreig drwy ddewis yr wÅ·n hyrddod mwyaf addas ar gyfer y dyfodol.
Mae swyddogion Hybu Cig Cymru yn pwyso'r hyrddod ar ddechrau ac ar ddiwedd y Prawf, ac yn defnyddio dull arbeunig i gael indecs, gan roi pwyslais ar gyhyr (50%), tyfiant (30%) a brasder (20%).
'Roedd yr indecs uchaf yn 145, efo hwrdd Glyn Rowlands, Frondeg, Penrhyncoch.
I ddewis Pencampwr i dderbyn Cwpan Rumenco, mae pob aelod sydd yn cefnogi'r prawf, yn cael pledleisio, a rhoi 3 pwynt i'r gorau, 2 i'r ail ac 1 i'r trydydd.
Y canlyniad oedd i hwrdd John Lewis, Trefaes Uchaf, Llangwyryfon, tag rhif 26, a hwrdd CAMP Pwllpeirian, tag rhif 4639 ddod yn gydradd, efo 27 pleidlais yr un.
Pasiwyd i'r ddau fuddugol gael cadw'r cwpan am chwe mis yr un.
'Roedd yr hyrddod wedi gaeafu'n reit dda i gyd, a chysidro'r gaeaf caled a gafwyd.
|