Roedd gwesty'r Marine Aberystwyth dan ei sang ar Nos Sadwrn 8 Ebrill; 'gwreng a bonedd' wedi dod ynghyd gyda'r un amcan sef anrhydeddu Dai Jones a diolch iddo am ei gyfraniad difesur i fywyd cefn gwlad ac amaethyddiaeth. Cafwyd gwledd o fwyd i ddechrau a gwledd arall i ddilyn. Y prif siaradwr oedd yr Arglwydd Elystan; arwr mawr i Dai ac yn ei eiriau of ei hun: 'gwr sy'n rhoi 'thrill' iddo bob tro fydd yn ei glywed yn llefaru'.
Cyflwynwyd gwobrau i Dai ar ran Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Ymhlith y siaradwyr roedd Cynog Dafis, Charles Arch, John Walter Jones (Cadeirydd Newydd S4C) ac Euryn Jones o Fanc Barclays, (un o brif noddwyr y noson). Roedd yna nifer o wynebau amlwg yn bresennol o wahanol gylchoedd a phawb yn gytun fod Dai yn berson unigryw, yn gyfathrebwr heb ei ail ac yn llawn teilyngu'r anrhydedd.
I gloi'r noson ar nodyn hynod o addas roedd rhai o aelodau Cor Ceulan wedi dod ynghyd o dan arweiniad Eirwen Hughes i ganu can arbennig o wrogaeth i Dai. (Bu of am flynyddoedd yn arwain eu Noson Gwyl Ddewi yn y Marine). Oedd, roedd Dai yn ei seithfed nef a hir y parhao i ddiddanu ei genedl a diolch i Olwen a John Ifor a'i deulu am eu cefnogaeth dawel. Diolchodd Dai i bawb ar y diwedd ac yn ei eiriau of ei hun: 'Diolch i Gymru fach am y cefnogaeth a diolch i'r Goruchaf am y fraint o godi bob bore a rhodio'. Erthygl gan Beti Griffiths o Lanilar
|