Ddiwedd llynedd cawsom y newyddion braf fod dwy o'n haelodau, sef Mrs Doris Wilkinson a Mrs Winnie Jones, wedi ennill y Fedal Gee am eu ffyddlondeb i'r Ysgol Sul.
Ar eu rhan aeth Nesta Edwards a Margaret Griffiths i'r Cyfarfod Cyflwyno, yn Alltwen, Pontardawe, i dderbyn y medalau, ac i fwynhau prynhawn dymunol a chroesawus.
Yna, ar Ebrill 18, a'r gwanwyn ar ei orau, teithiodd aelodau'r Ysgol Sul i Bennal View. Yno mae Mrs Wilkinson yn ymgartrefu ar hyn o bryd, ac yno y cyflwynodd y Parch Nicholas Bee'r fedal iddi, gan ddiolch iddi am ei chyfraniad arbennig.
Yn ogystal a gofalu am yr adeilad, bu Mrs Wilkinson yn organyddes, athrawes y plant, ac yn aelod amhrisiadwy o'r dosbarth oedolion.
Talwyd yr un diolch i Mrs Winnie Jones, bythefnos yn ddiweddarach, pan ddaeth y Parch Nicholas i festri Gosen i gyflwyno'r fedal.
Bu Mrs Jones yn athrawes ymroddgar i ddosbarthiadau o blant ac yn aelod brwdfrydig a selog o'r dosbarth oedolion.
Pleser yw llongyfarch Mrs Wilkinson a Mrs Jones. Cafodd y ddwy eu magu o fewn tafliad carreg i Gosen, a thros gyfnod o dros bedwar ugain mlynedd, mae'r ddwy wedi bod yn gefn I'r Ysgol Sul ac wedi sicrhau ei pharhad yn eu cymdogaeth.
|