Mae'r tywydd wedi bod yn braf gydol mis Mawrth ac efallai fod yr hen ddihareb "Mawrth a ladd ac Ebrill a fling" yn berthnasol iawn i'r flwyddyn eleni. I ni y garddwyr, hen lwynog yw'r tywydd braf yma mor gynnar yn y flwyddyn, mae yna gymysgedd o dywydd braf a rhew. Mae'r dyddiau braf yn egino'r coed a'r planhigion ond yn anffodus mae'r rhew yn eu lladd. Er hyn i gyd mae wedi bod yn dywydd da i baratoi'r tir a dyna fy ymgais adeg hyn o'r flwyddyn. Nid wyf yn credu mewn plannu dim yn gynnar allan yn yr ardd ac nid wyf yn plannu dim tan ddaw clychau'r gog i'r golwg sydd yn garped yn y coedwigoedd o amgylch Tyncoed. Mae hyn yn arwydd bod tymheredd rhesymol cryf yn y ddaear ac nid yw eich planhigion wedyn wedi goroesi yn y ddaear. Gall y rhew barhau hyd ddiwedd mis Mai ac i wythnos gyntaf ym mis Mehefin, yn enwedig mewn gerddi ger afonydd. Rhaid rhoi gofal manwl ar eich planhigion dros y cyfnod yma ac ar nosweithiau peryg rhowch rywbeth drostynt i atal y rhew. Haul y bore ar ôl noswaith o rew neu lwydrew sydd yn gwneud y difrod. Mae'r lili wen fach wedi ein gadael ac yn syth ar ei hôl daeth y daffodil. Mae enwau tlws Cymreigedd ar y daffodil fel Cenhinen Pedr, Lili Pengam a Lili'r Garawys. Fy hoff enw i yw Lili'r Garawys ac mae hon yn emblem i Gymru fach ac wedi bod drwy'r oesoedd. Torcalonnus oedd gennyf glywed ar y teledu yn ddiweddar bod rhai ardaloedd o Loegr am ddwyn ein emblem. Rwyf yn gobeithio gwnaiff ein cynhadledd rwystro hyn i ddigwydd. Yn sgil y daffodil mae'r friallen wedi dangos ei hwyneb ac mae hon eto yn flodyn prydferth ac yn rhoi awyrgylch y gwanwyn ar ein cloddiau. Wrth sôn am y friallen rwyf wastad yn meddwl am yr heol sydd yn ein harwain i Alltfedw, Llanfihangel y Creuddyn lle mae clawdd yn orlawn o friallu prydferth melyn. Mae yn wledd i'r llygad rhaid dweud. Cefais fy magu ger Alltfedw ac mae holl friallu yma yn tarddu allan yn flynyddol. Rhaid ei bod wedi cael eu plannu gan ein cyn deidiau flynyddoedd lawer yn ôl. Yn anffodus mae chwistrellu, yn enwedig gyda 'roundup' a chemegau o'r fath yma wedi prinhau ein briallu ac mae hyn yn dorcalonnus meddwl. Rwy'n siwr braidd bod modd i blannu rhagor o friallu ger cloddiau o amgylch eich cartref a bydd eich gwaith o ddiddordeb a mwyniant i'r cenedlaethau i ddod. Enw Saesneg ar y friallen gyffredin yw 'Primula Vulgaris' ac mae yn wreiddiol o Brydain Fawr. Mae rhan fwyaf o deulu'r friallen yn byw ar dir yn y 'Northen Hemispher' ac ychydig iawn sy'n weladwy i'r de o'r 'equator'. Mae tua 500 o wahanol fathau o friallu mewn bodolaeth, rhai meddal nad yw ond yn addas i dyfu mewn ty gwydr ond fe gewch rhai fel y 'Vulgaris' sy'n galed iawn ac sy'n dal y tywydd caletaf gall darddi arnynt ym Mhrydain. Mae'r tymor garddio ar ben y drws ac yn y cyfrolau nesaf byddaf yn rhoi pwyslais ar arddio cyffredin a sut i gael y gorau allan o'ch gardd.
|