Yn y rhifyn olaf soniais am sychder oedd yn rhoi ychydig ofid i'r garddwyr a'r ffermwyr, ond am fis Mehefin gwlyb a'r llifogydd dinistriol yn peri gofid i lawer ardal. Nid oes cof gennyf am fis Mehefin mor ddiflas a gwlyb ac, ar adegau, yn oeraidd ac yn debycach i dywydd mis Mawrth na chanol haf. Diflas iawn oedd gweld gerddi a chnydau amaethyddol yn rhai o ardaloedd Lloegr wedi eu llwyr ddifetha gyda'r llifogydd. Hyn i gyd wedi'r holl waith. Rydym yn ffodus iawn yn ardaloedd Y Ddolen bod y llifogydd tu hwnt i'n cyrraedd ond mae'r glaw trwm wedi gadael ei ôl ar rai o blanhigion y basgedi crog ac yn y blaen. Rwy'n gobeithio bod rhai wythnosau o haf eto i ddod neu mi fydd yn aeaf hir.
Tybed a ydych wedi sylwi pan fo'r tywydd yn wlyb ac yn wael yn y rhan yma o'r byd bod y tywydd yn eithriadol o dda yn Sbaen, yr Eidal, Groeg ac yn y blaen. Ond pan fo'r tywydd yn wael yn yr ardaloedd yna mae'r tywydd ym Mhrydain yn braf ac yn wresog. Rwy'n siŵr fod yna ateb penodol i hyn gydag awdurdodau'r tywydd.
Rhyw arddio weddol bratiog sydd wedi cymryd lle dros gyfnodau hir o fis Mehefin ond hoffwn bwysleisio ar gystadleuaeth arbennig ddigwyddodd yn Llanerchaeron ganol y mis. Cystadleuaeth rwy'n siŵr na chlywsoch amdani erioed o'r blaen ac efallai y cyntaf yn y byd! Mae cystadleuaeth troi a gosod perthi yn adnabyddus iawn ym myd amaethyddiaeth ond a glywsoch chi erioed am gystadleuaeth 'rhuchio' gyda rhaw coes hir Aberaeron; ond felly y bu yn Llanerchaeron yn ddiweddar. Cefais y fraint o fod yn brif feirniad gyda Gerallt Pennant, Huw Thomas ac un arall, lle mae'r enw wedi mynd yn angof. Bu'r tywydd yn wael ddyddiau ynghynt ond cawsom brynhawn hindda i gwblhau'r gystadleuaeth.
Y gystadleuaeth oedd creu rhych 60 troedfedd (20 llath) o hyd heb gordyn a heb begs nag unrhyw gynhorthwy arall - dim ond nerth y llygad. Fel beirniad roeddem yn edrych am gywirdeb a rhych ddefnyddiol at bob pwrpas.
Daeth un deg a phedwar o rychwyr i'r maes gan gynnwys dwy ferch - un ohonynt o fewn cyrraedd i bedwar ugain - henaint ni all ildio! Er bod y tir yn drwm oherwydd glaw gwnaeth pob un ohonynt ymdrech rhyfeddol a bu llawer iawn yn eu gwylio a chael amser rhagorol dros ben. Hwyl heb ei well.
Bu'r beirniaid i gyd yn gytun i ddod â'r tri gorau i'r brig gan gynnwys John Giant Griffiths o Ledrod, Tom Griffiths o Benuwch ac Aeron Davies o Gribyn ac o'r tri hyn aeth y wobr gyntaf i Tom Griffiths. Y wobr oedd rhaw Aberaeron wedi ei haddurno a hefyd tlws i'w gadw am flwyddyn.
Pwrpas y gystadleuaeth oedd codi arian at Ŵyl Gerdd Dant sydd i'w chynnal ym Mhontrhydfendigaid eleni. Y person tu ôl i hyn oll oedd John Watkins o Ffair Rhos ac yn ôl John cyfrannwyd swm da o arian at yr achos yma.
Fel rwy'n deall bydd hon yn gystadleuaeth flynyddol a chofiwch os am roi tro arni y flwyddyn nesaf rhaid i chi chwilio, prynu neu fenthyg rhaw coes hir Aberaeron. Ni chewch ddod â phâl neu unrhyw raw arall i'r maes.
Rwyf am chwilio hanes gwreiddiol y rhaw yma sydd wedi bod mewn bodolaeth, hyd y gwyddwn i, am dros bedwar ugain o flynyddoedd. Os gall unrhyw un roi hanes y rhaw, byddaf yn ddiolchgar iawn. Fel rwy'n deall mor belled, William Evans, hen aelod o deulu gofaint Llanfihangel y Creuddyn gychwynnodd y ital ond aeth i fyw yn Aberaeron, lle bu'n creu niferoedd lawer o'r rhawiau yma. Ef hefyd gychwynnodd ital yr arad fain geffylau yn ôl yn y 1920au. Dyn â llawer o weld ynddo heb os nac oni bai. Tybed a oes rhagor o'i hanes gan rywun. Yn ystod y blynyddoedd mae gof o Gwmsychbant wedi parhau i greu'r rhofiau hyn ond fel rwy'n deall mae prinder dur o'r safon yn peri i'r rhaw farw allan. Tybed a gawn ddiwygiad o rywle i ail gynhyrchu'r rhaw boblogaidd yma.
Mae rhaw Aberaeron fel y'i gelwir wedi bod yn un o offerynnau pennaf y garddwr ers blynyddoedd lawer. Mae gweithredu heb blygu llawer yn fantais fawr yn y rhaw yma. Hon hefyd oedd offeryn poblogaidd 'dyn yr hewl' yn ei ddyddiau fel `lengthman'. Hon, gyda'r cryman wrth gwrs! Ond rhaid dweud bod ffordd effeithiol o ddefnyddio'r offer yma. Yn anffodus mae'r peiriannau wedi cymryd drosodd - dim i'r gwell mewn llawer maes. Tybed a fyddai llawer o'r llifogydd yma wedi cael eu hosgoi os pe byddai mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'r rhaw sylfaenol yma. Roedd 'dyn yr hewl' yn cadw'r gwteri dan reolaeth. Heddiw torrir porfa heb ei glirio a hwn yn cau'r gwteri gan ychwanegu at y perygl o lifogydd.
|