Cafwyd ymateb ffafriol a phawb yn canmol ansawdd y lluniau lliwgar - adlewyrchiad o'r dyffryn hardd yr ydym yn byw ynddo. Os methoch â galw i'n gweld, peidiwch a phoeni, byddwn yn ymweld â'ch cymuned eto cyn diwedd y flwyddyn gyda'r cynllun fforest gorffenedig.
Yn ystod y misoedd diwethaf, bum yn cynorthwyo Grwp Coedtiroedd Nanteos i ddatblygu prosiectau o fewn cymunedau yr Ystwyth. Gobeithir rheoli rhan o Goed Tyllwyd, Llanfarian gyda chymorth y gymuned lleol. Bydd cyfle i bawb i gynnig help ymarferol yn ogystal â chynnig syniadau ar sut i hybu'r bywyd gwyllt, rheoli'r coed a marchnata'r cynnyrch a ddaw ohonynt.
Mewn partneriaeth â Menter Coedwigaeth, rwyf wedi bod yn edrych ar ffyrdd o hybu coedwigoedd ar gyfer gwella iechyd y bobl leol. Cyn bo hir, bydd pecyn ar gael yn y feddygfa yn Llanilar, yn ogystal â mannau cyhoeddus eraill, sy'n rhoi gwybodaeth am hyd a graddfa llwybrau cerdded addas o fewn coedwigoedd y dyffryn. Cofiwch bod cerdded mewn coedwig yn medru ysbrydoli'r meddwl yn ogystal â'r corff! Hefyd, ar brynhawn dydd Sul, Medi'r 28ain, rydym yn trefnu diwrnod "iechyd" agored yng Nghoed Tynbedw, Llanafan a neuadd gymuned Llanilar - cofiwch alw heibio am brynhawn o hwyl iachus i'r teulu!
Diolch i bawb a ymatebodd i'r holiadur a anfonais atoch ym mis Mawrth, dychwelwyd dros 300 o holiaduron. O ganlyniad, rwyf wedi bod yn trefnu gweithdai mewn crefftau a rheolaeth coetir. Dyma galendr o ddigwyddiadau am y misoedd nesaf:
Gorffennaf 19/20 - gweithdy penwythnos ar droelli pren a llosgi marwor ar Ystad yr Hafod.
Awst 2/3 - gweithdy penwythnos ar godi waliau cerrig sychion ar Ystad yr Hafod.
Medi 12 - gweithdy i ddechreuwyr ar ffyrdd o reoli coedwig - cwrdd yn Neuadd Llanfarian.
Medi 25, 10.00a.m. - 2.OOp.m. - arddangosfa a manylion ariannol am y gost a'r elw o lifio coed ar y fferm Fferm Maenarthur, Pontrhydygroes.
Medi 28 - prynhawn agored "lechyd i'r teulu" yng Nghoed Tynbedw a neuadd gymuned Llanilar.
Yn dilyn syniad a gynigiwyd gan Jim Worthington o Lanafan, mae Tir Coed yn bwriadu cynnal ocsiwn pren yn y dyffryn. Y bwriad yw cynnig man canolog i werthu maint bach o goed (yn ogystal â rhai mwy niferus) ynghyd â chyfle i dyfwyr coed a defnyddwyr coed i gwrdd a sgwrsio.
Gellir cynnig pren i'w werthu mewn unrhyw ffurf (cylchbren, wedi ei lifio, neu gynnyrch o bren), medrwn awgrymu rhywun i gludo coed i safle'r ocsiwn pe dymunwch. Gobeithir hefyd cynnig llif ar y safle i gwrdd a gofynion llifio ar y dydd.
Cynhelir yr ocsiwn cyntaf ar ddydd Sadwrn, Hydref 11eg ar Fferm IGER, Trawsgoed, (ar y B4340). Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig coed neu cynnyrch pren i'w gwerthu a fyddech cystal a chysylltu â mi, erbyn diwedd Gorffennaf, gyda gwybodaeth am rywogaeth, amcan o'r maint, ac ym mha ffurf y cynigir y pren i'w werthu.
Cysylltwch â Gwyneth ar: 01974 282476 os am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau uchod.
Gwyneth Davies