91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Harbwr Aberaeron Cadair Clonc
Medi 2008
Y Ddolen yn holi'r Parch. Richard Evans o Lanilar am ei fywyd a'i waith.

Ymhle cawsoch eich geni a lle rydych yn byw?

Cefais fy ngeni yn nhref Aberaeron yn ystod y Rhyfel Mawr 1914-1918, mewn gwesty o'r enw Black Lion y wynebu maes chwarae y dref. Ar ôl saith mlynedd symudodd fy nheulu i Lanbadarn Fawr, Aberystwyth. Ar ôl pedair mlynedd, symud eto i'r Falcon, Llanilar. Wedyn ar ôl i fy mam glywed fod ei chyfnither yn dioddef o'r gwynegon perswadiodd hi i mam ofalu am y gwesty Black Lion ym Mhontrhydfendigaid yn y flwyddyn 1937.

Pwy ddylanwadodd fwyaf arnoch yn eich blynyddoedd cynnar?

Yn naturiol i ddechrau fy mam ; honno a'm cefnogodd i fynd i'r coleg. Ar ôl blynyddoedd o addysg dylanwadodd y Parchedig Dr Islwyn Davies, ficer Llanbadarn Fawr yn drwm arnaf, oblegid ar ôl cael fy ordeinio yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd, anogodd fi i gymryd rhan yn yr Eglwys gydag ef i gyd-weinyddu'r Cymun Bendigaid, fel y meddai, `y gallwch roi Cymun i'ch mam a'ch chwaer cyn dechrau eich gyrfa fel ciwrad ym mhlwyf Nantymoel' (Esgobaeth Llandaf, Caerdydd)

Rhowch fraslun o'ch gyrfa

Cefais fy addysg yn ysgol elfennol Llanilar ; wedyn coleg enwog, St Ioan, Ystrad Meurig; Y Brifysgol, Aberystwyth. Ar ôl graddio gorffen cwrs diwinyddol yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, Caerdydd.

Pwy yw aelodau'r teulu a beth yw eu hanes?

Saer coed ac adeiladydd oedd gwaith fy nhad. Gweithiai am flynyddoedd yn y Rhondda yn codi tai a'u cyweirio, hyd nes iddo golli ei iechyd. Ffermwr oedd fy ewythr, brawd fy nhad yn ffermio Hendrerhys, Trawsgoed Mae cyfnither gennyf yn byw yn Aberystwyth. Bu Eluned am flynyddoedd yn ysgrifenyddes i lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Erbyn hyn mae wedi ymddeol.

Beth yw eich diddordebau?

Mae diddordeb mawr gennyf yng ngwaith yr eglwys a cherddoriaeth. Pan oeddwn yn fachgen ifanc yn Llanbadarn Fawr ymunais â chôr yr eglwys a bûm yn aelod o gôr mawr yr eglwys am flynyddoedd. Cymerais ran flaenllaw mewn Cymanfa Ganu a'r Pwnc hefyd sef y Calan Hen

Beth yw'r cyngor gorau gawsoch erioed a gan bwy?

Y cyngor gorau gefais oedd gan Sais o'r enw Mr Wilson o Ysbyty Ystwyth. Dywedodd wrthyf, `I hear you are preparing yourself for the Holy Ministry. Well my boy when you qualify make a job of it'. Dyma'r cyngor a'm perswadiodd i fod yn ffyddlon a chydwybodol yn y swydd bwysig fel gweinidog yr efengyl. Y maes orau a ddewisais oedd bod yn offeiriad mewn gofal plwyf. Cefais bob cefnogaeth gan Brifathro Coleg Ystrad Meurig, y Canon D J Jones a fu'n ysgolhaig gwych yn y clasuron.

Petaech yn cael cyfle i gael eich hyfforddi o'r newydd ym mha faes fyddai hynny a phaham?

Er fy mod wedi dewis y swydd o fod yn offeiriad, carwn fod wedi astudio cerddoriaeth a meistroli'r piano a'r organ mewn eglwys.

A oes rhyw ddigwyddiad wedi peri embaras i chi?

Oes, cael gwahoddiad i bregethu mewn gwasanaeth o Ddiolchgarwch ymhell o'm plwyf, a ffrind i mi wedi galw a'm rhwystro rhag cychwyn mewn pryd ar y daith. Ofni yr oeddwn y byddwn yn ddiweddar i'r gwasanaeth ac yn embaras i'r Ficer, y gynulleidfa a minnau. Bûm yn ffodus, cyrhaeddais yno ar y funud olaf, pan oedd y gloch yn canu.

Pa dri pheth sy'n eich gwneud yn hapus?

Tri peth a'm plesiodd : Fy nheulu, fy ngwraig a gweinidogaeth yr eglwys Bûm yn ffodus i gael mam dda a thad caredig. Nid oedd swn mawr ar yr aelwyd na chweryl. Pawb yn gytun ac yn cydweithio'n hapus. Pan briodais dywedais wrth fy ngwraig y byddwn yn symud o blwyf i blwyf, ac efallai y byddai'n annifyr mewn ambell i blwyf. Yn ffodus, wynebodd yr her a bûm yn cydweithio'n hapus ymhob plwyf. Bûm yn ficer Ysbyty Cynfyn, Llanwenog a chyn fy ymddeoliad Llanychaearn. Wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd a aeth heibio rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi mwynhau fy ngyrfa yn y weinidogaeth.

Pa dri pheth sydd yn eich gwylltio fwyaf?

Pobl amharchus, hunanol, yn cefnu ar gymdeithas a phentref; bechgyn ifanc sydd yn peryglu eu hiechyd drwy yfed y ddiod gadarn yn ormodol; a'r bobl sydd yn defnyddio iaith anweddus, ac yn amharchu'r Duwdod, gan gynnwys enw Duw yn ofer.

A ydych yn mwynhau teithio? Pa ran o'r byd sydd orau gennych a phaham?

Roedd yn bleser i mi deithio i'r cyfandir i weld golygfeydd gwych y wlad a sut oedd pobl yn byw yno. Taith hir am oriau lawer mewn bws cyffyrddus trwy Ffrainc, yr Almaen, Awstria a'r Swistir. Pleser oedd aros am ddiwrnod mewn gwesty moethus yn Innsbruck a chael ein cludo mewn car i gopa un o fynyddoedd uchel y wlad, a gweld yn y pellter y Brennar Pass - roedd golygfeydd y wlad yn wych.

Pwy yw eich arwr / arwres a pham?

Fy arwr ydy Lloyd George - Cymro dawnus a gwleidydd mawr. Dyrchafwyd ef i'r swyddi mwyaf pwysig yn y Llywodraeth. Ef oedd un o'r areithwyr mwyaf effeithiol yn Nhµ'r Cyffredin. Pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys cyflwynodd fesur yn ei gyllideb i roi pensiwn yn gyntaf i'r henoed yn y flwyddyn 1909.

Beth ydych yn ei ofni fwyaf?

Yr ofn mwyaf yw bod yn ddiweddar, yn enwedig mewn gwasanaeth, neu anghofio cyhoeddiad pwysig mewn eglwys. Ar ynys bellennig pa dri eitem fyddech yn mynnu eu cael yno a phaham? Gweithiau Shakespeare i wybod am helynt y byd a'i bobl, Y Beibl i wybod am Dduw, a hunangofiant am berson nodedig a'i brofiadau.

Petaech yn ennill y Loteri beth wnaech a'ch lwc?

Petawn yn ennill y Loteri byddwn yn pryderu y cawn bwndel o lythyron gan bobl twyllodrus yn crefu am arian. Mae llawer o bobl ar ôl ennill y Loteri yn colli eu ffrindiau. Gwell rhannu peth o'r arian i rai mewn gwir angen. Gan gofio air o'r Ysgrythur `Rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu'.

Beth yw eich hoff dasg o gwmpas y ty?

Fy hoff dasg o gwmpas y ty ydy cadw'r ardd yn gymen, a gofalu ar ôl y blodau a'r ffrwythau yn eu tymor. Garddio neu drip i'r archfarchnad? Pa un sydd orau gennych a pham? Yn lle dibynnu ar gynnwys yr archfarchnad, codi llysiau a ffrwythau o'r ardd. Byddai'r cynnyrch yn ddigon i gadw dyn fel fi sydd yn byw ar ei ben ei hun.

Pa unigolion / grwp o bobl nad ydych yn gysurus yn eu cwmni?

Y rhai sydd yn meddwi, yn rhegi a llawer heddiw yn cymryd cyffuriau a cheisio denu'r ifanc i ddilyn eu hesiampl. Eraill yn defnyddio gair Duw yn ofer. Ni allaf ddioddef pobl amharchus.

Pa dymor o'r flwyddyn sydd orau gennych a pham?

Tymor gorau'r flwyddyn yw'r Gwanwyn - tymor yr wyn bach yn prancio yn y caeau, a byd natur yn dadebru o'i chwsg dros y Gaeaf. Fel y dywedodd y diweddar Parch T Lunt, ficer Ystrad Fflur, `Mis y misoedd ydy Mai'.

Pa ddawn fyddech yn hoffi berchen arni?

Y ddawn yr wyf yn ei edmygu yn fawr ydy'r ddawn i ganu'r piano mewn cerddorfa ; darn o gerddoriaeth ar y cof heb gopi, fel y pianydd dawnus, Llyr Williams.

Pa fath o ddeunydd rydych yn mwynhau darllen? Rhowch rai enghreifftiau.

Y deunydd rwyf yn hoff o ddarllen ydy hanes y wlad hon a'r cyfandir ; hunangofiant am un yr wyf yn ei adnabod ac yn ei edmygu sef Charles Arch ; barddoniaeth R S Thomas, cyn ficer Eglwysfach; Y Beibl ac esboniadau arno gan awduron ysgolheigaidd.

A oes gennych hoff raglen deledu / radio? Enwch rai.

Fy hoff raglen deledu yw gweld byd natur ar ei orau - gweld adar bach yn cael eu bwydo yn y nyth, ac adar prin mewn gwlad ddieithr; chwaraeon; cerddoriaeth glasurol a sgyrsiau diddorol ar y radio.

Beth sydd wedi rhoi mwyaf o bleser i chi yn ystod eich bywyd?

Pleser o gael gwraig dda gartref i sgwrsio am waith yr eglwys ac hefyd yn gymorth i mi i chwarae'r organ yn yr eglwys pan nad oedd organydd i'w gael. Hefyd i baratoi bwyd yn ei bryd, a chael cwmni da gartref. Pa sefydliad neu gymdeithas a ddylanwadodd fwyaf arnoch e.e. clwb, capel a y.y.b Y sefydliad a ddylanwadodd fwyaf arnaf oedd yr eglwys a'r ficer yn Llanilar, sef y Parch. T Herbert Davies. Rhoddodd gyfle i mi ddarllen y llithoedd yn yr eglwys a chymryd rhan yn ngweithgareddau'r plwyf.

Eich hoff steil o gerddoriaeth. Ehangwch

Rwy'n hoff o wrando ar gerddoriaeth wych gan gyfansoddwyr fel Williams Mathias o Gymru. Clywais ei ddawn ar yr organ, yr oedd ganddo steil arbennig. Un arall- Edward Elgar a'i gyfansoddiadau poblogaidd 'Enigma Variations', 'Pomp and Circumstance' a 'Dream of Gerontius'. Un arall Edward Grieg, a'r ddarnau rhamantus, 'Peer Gynt'. Pob un a'i wahanol steil.

A yw gwleidyddiaeth / gwladweinwyr yn bwysig i chi?

Ydynt, gweision sifil yw y rhain nid meistri. Eu gwaith yw helpu'r trethdalwyr i ddatrys eu problemau oblegid y trethdalwyr sydd wedi eu penodi i'w cynrychioli nhw bob amser, yn lle segura, a throi clust, byddar pan fo eisiau cymorth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý