Hoffwn ddweud diolch i bawb a naeth fy nghefnogi yn y bingo ym mis Chwefror i godi arian at fy nhrip i Zambia a oedd yn drip bythgofiadwy. Dros y deg diwrnod buom yn dysgu 814 o ddisgyblion ysgol, athrawon a'r heddlu. Roedd yn llawer o waith caled ond roedd yn werth e, ac roeddwn wedi byw'r targed o ddysgu 4,500 o bobl. Roedd yn brofiad gweld yr ysgolion ond hefyd cawsom siawns i ddod I adnabod teulu yn eu cartref ar bwys ein gwesty. Buom yn hedfan o faes awyr Heathrow ar y 7 Mawrth ac roedd yn siwrne hir o 10 awr yn ddi-dor ond cawsom groeso cynnes gan ein ffrindiau yn St John Zambia. Dysgais i'r heddlu am ddau ddiwrnod ac mewn pedair ysgol gwahanol, am y gweddill. Tra yr oeddwn yno roedd diwrnod Ieuenctid Cenedlaethol a chawsom gyfle i fod yn rhan o'r orymdaith a aeth heibio llywydd Zambia. Roedd y diwrnod hwn yn hir lawn gan mai dyma oedd ein diwrnod poethaf hyd yn hyn, yn cyrraedd tua 40°C. Cawsom ddau diwrnod arall heb orfod dysgu hefyd. Ar un ohonynt aethom i saffari ac ar y diwrnod arall aethom i ganolfan siopa lle roedd stondinau o eitemau wedi eu gwneud a llaw. Gan fod yr wythnos gyntaf o'n trip ynayn wythnos leuenctid Cenedlaethol, cawsom gyfle i fynd at eu gwyl gerddoriaeth a diwylliannol yn y neuadd leol, a chefais fy newis i fynd ar y llwyfan gyda nhw i ddawnsio. Roedd yn brofiad anghredadwy ac roedd y seremoni cau yn grêt achos cawsom siawns
|