Ar ôl yr holl gynnwrf wrth godi arian ar ran elusen gofal canser Macmillan, sicrhau bod gen i'r offer angenrheidiol, a dilyn amserlen ymarfer corff, cyrhaeddodd yr uchafbwynt mewn 17 diwrnod anhygoel yn Nepal. Er i fi fwynhau, mewn un ffordd, mae'n ryddhad bod y cyfan drosodd, oherwydd er gwaethaf fy hyder cyn mynd, roedd llais bach yng nghefn fy meddwl yn holi beth fyddai'n digwydd pe na bawn yn cyrraedd pen y daith am ryw reswm neu'i gilydd. Bellach dwi'n medru dweud - bu'n daith llwyddiannus, a 'dwi wedi bod yna!
Roedd 26 ohonom ar y daith, 25 yn codi arian, ac un arweinydd. Ond wrth ddechrau ar ein taith ym mhentref Lukla, chwyddodd ein niferoedd wrth i'r tîm o sherpas, porters, yaks a'u gyrwyr ymuno â ni. Roedd angen tîm o 30 i ofalu am y 26 ohonom! Teithiau cerdded yw prif ddiwydiant yr ardal, ac roedd y trigolion yn dibynnu ar y cyflog a dderbynient am ofalu amdanom ni i gynnal eu teuluoedd. Cerdded yw'r unig ffordd i fynd o le i le yn yr ardal hon - nid oes heolydd na cheir yno o gwbl, felly'r yaks a'r porters sy'n cario popeth sydd ei angen o bentref i bentref.
Er bod bywyd yn go galed i drigolion yr Himalayas, roedd y bobl i'w gweld yn siriol lawn. Un o'r atgofion fydd gen i am byth yw caredigrwydd a hynawsedd y sherpas, bobl weithgar, gyfeillgar a hynod o gryf. Nhw oedd yn ein deffro yn y bore, yn ein tywys ar hyd y llwybrau mynyddig, yn ein bwydo ac yn codi'r gwersyll ar ddiwedd bob prynhawn. Nhw oedd y cyntaf i godi yn y bore, a'r olaf i'w gwely yn y nos, heb air o gwyn, bob amser yn siriol.
Dechreuasom gerdded ddydd Sul, gan anelu at gyrraedd y gwersyll wrth droed Everest y Sul canlynol, sef Sul y Pasg. Roedd y diwrnodau cyntaf yn bleserus iawn, wrth i ni gerdded drwy ardaloedd gwyrdd, ger yr afon Dudh Khosi (Afon Llaeth).
Er bod y llwybr yn serth iawn ar adegau, roedd yn ardal hardd, ac roeddem yn pasio drwy nifer o bentrefi bach, gan gynhyrfu'r plant bach oedd yn chwarae ar ochr y llwybr. Byddai'r plantos wrth eu bodd yn cael tynnu eu lluniau, yn arbennig gan fod modd iddynt weld eu lluniau ar sgrin fach ein camerâu digidol, gan arwain at fonllefau o chwerthin a ribidires o eiriau Nepaleg!
Un o'r pentrefi mwyaf anhygoel i fi ei weld erioed oedd Namche Bazaar, sy'n cael ei adnabod fel prifddinas y sherpas. Arhosom yno am ddwy noson, er mwyn dod i arfer â'r uchder (gan ein bod bellach tua 3,500 0 fetrau yn uwch na lefel y môr). Mae'r pentref lliwgar wedi ei adeiladu yn uchel ar ochr y bryn, a'r holl nwyddau sydd eu hangen ar y trigolion (ac eithrio'r hyn yr oedd modd ei dyfu yn lleol) yn cael eu cludo ar droed o Lukla.
Wrth ddringo allan o Namche Bazaar gwel¬som Everest am y tro cyntaf - ac roedd hynny'n deimlad afreal. Roeddem i gyd yn adnabod y mynydd enwog wrth gwrs, wedi gweld cannoedd o luniau ohono dros y blynyddoedd, a dyma ni'n ei weld am y tro cyntaf gyda'n llygaid ein hunain! Bu'n foment emosiynol i sawl un o'r criw.
Wrth ddringo'n uwch, cawsom gyfle i ymweld â mynachlog Bwdhaidd Tyangboche. Dyma adeilad wedi'i addurno'n helaeth ac yn lliwgar. Yn anffodus cyraeddasom yn rhy hwyr i weld y mynachod yn gweddïo, ond cawsom grwydro o amgylch y fynachlog, a bendithiwyd sgarff arbennig i mi gan y mynach oedd yno ar y pryd.
Dydd Sul y Pasg, daeth rhan anoddaf y daith gerdded, sef cerdded dros rewlif i gyrraedd at Base Camp. Erbyn hyn roedd yr uchder yn effeithio arnom i gyd. A ninnau wedi cyrraedd 5,357 o fetrau yn uwch na lefel y môr, mae 50% yn llai o ocsigen yno nag a geir yn Aberystwyth - felly mae fel cerdded gan ddefnyddio un ysgyfaint yn unig. Roedd rhai yn sâl, rhai yn fyr eu hanadl, rhai â chur pen difrifol. Yn ffodus, yr unig effaith arna i oedd teimlad penysgafn, a'm coesau'n teimlo'n aruthrol o drwm! Erbyn hyn roedd yn anodd iawn rhoi un troed o flaen y llall.
Tua 2.15, cyraeddasom Base Camp o'r diwedd. Lle caregog, rhewllyd, gwasgaredig yw Base Camp. Mae'n llawn pebyll o liwiau gwahanol, gan gynnwys pabell fawr, feddygol. O'n blaenau roedd y `Khumbu ice fall', sef y llwybr i'r dringwyr sy'n anelu at frig Everest, ond doedd gennym ni DDIM awydd mynd yn uwch!
Roedd y daith yn ôl i Lukla dipyn yn haws, a phedwar diwrnod yn ddiweddarach, roeddem ar ein ffordd yn ôl i Kathmandu, a oedd yng nghanol eu dathliadau i groesawu'r flwyddyn newydd 2064!
Rwy'n parhau i gasglu arian tuag at Macmillan am ychydig amser eto. Bu bobl Ceredigion a thu hwnt yn hael lawn, gan gynnwys nifer fawr o ddarllenwyr Y Ddolen. Mae'r cyfanswm erbyn hyn yn £6,983.91, ac yn dal i godi! Diolch o galon i bawb am bob cefnogaeth, fe'i werthfawrogir yn fawr iawn.
Meleri MacDonald