Ymhle cawsoch eich geni a lle rydych wedi byw?
Yn Halifax, Swydd Efrog. Roedd fy rhieni, oedd yn Gymry, wedi bod yn ceisio dychwelyd i Gymru i fyw ers iddyn nhw briodi yn ystod y rhyfel, ond wedi methu a chael tŷ cyn imi gyrraedd. Babi bach oeddwn i pan symudom ni i Dre-garth, pentref yn ardal y chwareli yn Sir Gaernarfon, lle y cawsai fy nau daid eu magu. Wedi astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Poitiers, mi fu^m i'n dysgu ym Mhrifysgol Caer-Wysg (Exeter) am ddwy flynedd, cyn dychwelyd i Gymru ym 1980. Symudais i Frynafan bron i chwarter canrif yn ôl, i fyw mewn bwthyn bach yn nghanol y caeau.
Pwy ddylanwadodd fwyaf arnoch yn eich blynyddoedd cynnar?
Fy mam, yn sicr. Roedd hi, fel ei mam hithau, yn credu'n gryf y dylai merched gael yr addysg orau bosibl a phob cyfle ac anogaeth i ddilyn gyrfa ac i fyw yn annibynnol. Pan briododd fy mrawd, mi siarsiodd hi fy chwaer-yng-nghyfraith newydd i beidio a newid ei henw ac i gadw cyfrif banc ar wahân! Ond rhaid enwi fy nhaid hefyd: tyddynwr (a phencampwr bridio geifr!), newyddiadurwr (mi gyfarfu â Nain mewn cyfarfod NUJ cyn y Rhyfel Byd Cyntaf), a hynafiaethydd o fri. Dyn cwbl annibynnol ei farn ac yn 'styfnicach na mul.
Rhowch fraslun o'ch gyrfa
Treuliais ddwy flynedd fel darlithydd mewn adran Ffrangeg, cyn newid cyfeiriad ym 1980 a threulio gweddill fy ngyrfa ar staff y Llyfrgell Genedlaethol, yn arbenigo ar lawysgrifau, yn enwedig y rhai canoloesol. Ymddeolais yn gynnar am resymau iechyd ym mis Mawrth 2006 ac ers hynny rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar brosiectau ymchwil, ac yn gweithio ar fy liwt fy hun yn ysgrifennu, golygu ac ati.
Pwy yw aelodau'r teulu a beth yw eu hanes?
Ar wahân i Ned, fy mhartner annwyl, mae gennyf frawd, Dewi, sy'n byw yn Aberdeen ers y 1970au cynnar ac yn gweithio yn y diwydiant olew, a chwaer, Glenys, oedd yn archeolegydd ac yn gweithio mewn amgueddfa yng Nghaer cyn i salwch ei threchu. Fi oedd cyw melyn olaf fy rhieni.
Pa dri pheth sy'n eich gwneud yn hapus?
Treulio penwythnos tawel yng nghwmni Ned; dod adref i Rhos Fach ar ôl bod yn crwydro; ysgrifennu.
Pa dri pheth sy'n eich gwylltio fwyaf?
Pobl y dinasoedd yn trin Cymru a'n cefn gwlad fel lle o adloniant iddyn nhw ac yn gwrthod parchu ein hiaith a'n diwydiant; gwastraffu adnoddau prin y ddaear; Cymry sydd yn troi i'r Saesneg neu'n cyfieithu priod-ddulliau Saesneg i'r Gymraeg.
Beth ydych yn ei ofni fwyaf?
Mynd yn fethedig a gorfod symud o'r bryniau.
Beth yw eich hoff dasg o gwmpas y tÅ·?
Gwneud bara. Mae'r tylino'n therapiwtig, yr oglau'n nefolaidd, a'r blas yn ardderchog!
'Garddio' neu `drip i'r archfarchnad'? Pa un sydd orau gennych a pham?
Garddio amdani. Mae'n falm i'r enaid, yn ymarfer corff da, ac mae tyfu ychydig o fwyd a blodau yn rhoi pleser mawr imi. Rwy'n casau archfarchnadoedd am resymau gwleidyddol ac amgylcheddol - ai fi yw'r unig ddynes yn yr ardal sydd byth yn siopa ym Morrison's? Unwaith yn unig y bum i yno, i gasglu prescripsiwn ar frys, a'i heglu hi o 'na yn reit handi.
Pa unigolion / grŵp o bobl nad ydych yn gysurus yn eu cwmni?
Pobl wedi meddwi'n rhacs.
Pa dymor o'r flwyddyn sydd orau gennych a pham?
Gan fod gwres yn fy llethu, mi fyddaf yn falch o weld yr hydref yn dod bob blwyddyn, yn enwedig os cawn ddiwrnodau braf, oer, a'r dail crin yn crensian dan draed. Ac mae hi'n gyffrous dros ben ddarganfod rhagarwyddion y tyfiant a ddaw yn y gwanwyn, tra'n mwynhau ffrwythau a'r llysiau a fu'n aeddfedu dros yr haf a aeth heibio.