Yng nghyfarfod cyntaf 2008 ar 9 Ionawr croesawyd pawb yn gynnes gyda'r dymuniadau gorau gan ein Llywydd. Ymdriniwyd â nifer o faterion gweinyddol a phleser fu croesawi wedyn ein gwestai sef Lyn Lewis Dafis atom i sôn am 'Ddathlu'r Flwyddyn Newydd'.
Mae Lyn yn enedigol o Fynachlogddu ac yn Swyddog Metadata yn y Llyfrgell Genedlaethol. Treuliwyd orig addysgiadol yn ei gwmni yn sôn am Y Calendr, Y Gwyliau a'r Dyddiau pwysig o fewn Blwyddyn. Eglurodd inni amryw o'r traddodiadau yn ymwneud â'r Flwyddyn Newydd - cychwyniad y Calendr gan Julius Caesar, y Gwyliau chwarterol fel Gŵyl Ifan a Gŵyl Fihangel; y traddodiadau o facsu cwrw a hela calennig; Y Fari Lwyd a Hela'r Dryw. Olrheiniodd Lyn darddiad yr arferion hyn i gyd. Yr oedd yr oll o'r uchod, meddai yn gysylltiedig â chymuned gyfan ac roedd y weithred o fynd o ddrws i ddrws mor bwysig. Roedd dydd Calan yn ddydd o roi rhoddion ac o esgusodi dyledion.
Soniodd am yr arfer o `wassailing' - sef mynd o gwmpas i gael bwyd ac yfed o lestr arbennig gyda 12 trontol iddo - un am bob dydd Gŵyl Dolig.
Beth oedd Dŵr y Flwyddyn Newydd? - bechgyn yn mynd at ffynnon gyda darn o bren celyn, codi dŵr, dipio'r celyn a'i daenu ar wyneb neu ddwylo ac wedyn gofyn am geiniog. Roedd yr arfer o Hela'r Dryw ychydig yn frawychus - cario dryw ar elor wedi ei addurno â rhubanau - y ddefod yn arwain gŵr ifanc at ei gariad! A'r Fari Lwyd - hen benglog ceffyl gyda shiten wen yn crwydro'r wlad yn canu. Dim chwarae oedd yr uchod ond ffordd o fyw!
Mwy am Y Fari Lwyd Arferion y Nadolig a'r Calan
Talwyd y diolchiadau gan Margaret Morgan a pharatowyd y te gan Anne, Eirwen a Eirlys Davies. Yn y gystadleuaeth am hen gân yn gofyn am galennig neu hen arferion bore Calan yr enillwyr oedd Nesta, Margaret Griffiths, Joyce a Brenda. Enillwyd gwobrau raffl gan Gwladys, Margaret Morgan a Falmair.
Ar nos Fercher, 23 Ionawr pleser fu cael cwmni Hefin Jones, Llanbadarn i lywio Gyrfa Chwilen. Er mai braidd yn gyfyng oedd y gofod prif elfen y gêm hwyliog yw CYFLYMDRA a LWC wrth gwrs! Pleser hefyd fu cael cwmni ein Swyddog Datblygu, Elisabeth Evans a hi lwyddodd i gael y sgôôr uchaf ar ddiwedd y noson. Mair Jones oedd â'r sgor isaf. Bu Hefin yn garedig iawn yn cyflwyno gwobrau i'r merched hefyd. Diolchwyd am noson o hwyl gan Joyce a mwynhawyd cwpanaid wedi ei pharatoi gan Hilda, Marian a Mary. Y gystadleuaeth oedd 'Copi o'ch hoff adroddiad digri' a'r enillwyr oedd Mary Parry a Mair Griffiths. Roedd y tocynnau raffl lwcus gan Iona, Nesta, Falmair, Mair Jones a Eirlys Davies.
|