Mae llawer ohonom yn cofio'r adeg pan oedd Prifathro yn byw ymhob pentref, Gweinidog ac Offeiriad yng ngofal un neu ddwy Eglwys, dyn y ffordd yn gofalu am ei 'length' a plismon yn byw mewn ardal ac yn gofalu amdani. Daeth newidiadau mawr. Gwelwyd eisiau y plismon lleol oedd yn cerdded neu ar feic, yn gweld a gwrando, yn cynghori ac yn gweithredu weithiau! Wedi i'r plismyn fynd i'r ceir Panda teimlwyd colli'r gofal a'r cyffyrddiad personol. Mae digon o achwyn wedi bod am y sefyllfa bresennol. Eleni mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal arbrawf o gydweithio gyda Swyddfeydd Post. Y bwriad yw creu gwell mynediad i rai o wasanaethau'r Heddlu mewn cymunedau gwledig a gwella ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd. Fel canlyniad i'r bartneriaeth hon dewiswyd deg o ganghennau Swyddfa'r Post ym Mhowys a Cheredigion. Y tair yn y Sir hon yw Llanrhystud, Pontarfynach, a Rhydlewis. Yn ystod yr arbrawf bydd pobl leol yn medru defnyddio'r gwasanaethau a ganlyn yn y Canghennau hyn: Rhoi gwybod am droseddau fel lladrad i ddifrod troseddol i fandaliaeth i ladrad o gerbyd modur neu ddifrod eiddo. Neu unrhyw ddigwyddiad arall. Casglu taflenni gwybodaeth a chyngor yr heddlu. Holi am eiddo y cafwyd hyd iddo. Cyflwyno dogfennau gyrru Cyflwyno ceisiadau ar gyfer trwyddedau drylliau tân a thrwyddedau gynnau cetris.
|