Daeth y Nadolig yn gynnar i Clifford a Dic Evans, y ddau frawd o Abermagwr, pan gawsant yr anrhydedd o gynrychioli Cymru mewn ras redeg mynydd ym Mhencampwriaeth Meistri'r Byd yn Unterharmersbach, tref fach ynghanol y Fforest Ddu yn Ne-orllewin yr Almaen. Roedd y ddau'n fodlon iawn gyda'u canlyniadau ar ôl rhedeg yn eu rasys priodol. Mewn rasys o safon uchel yn erbyn rhedwyr o bedwar ban y byd gyda chynrychiolaeth o ddau ddwsin o wledydd daeth Clifford yn 59 yn yr adran 45 oed yn ei ras gyntaf fel aelod o dim Cymru ac yn y ras i'r adran 55 oed diweddodd Dic yn 13eg. Er bod Dic wedi cynrychioli Cymru dros gant o weithiau roedd y gystadleuaeth yma yn un arbennig i Dic gan ei fod wedi cael y fraint o fod gyda'i frawd pan gafodd Clifford yr anrhydedd o wisgo'r crys coch am y tro cyntaf. Er i'r rasys fod yn anodd gyda'r rhedwyr yn gorfod dringo dros 2000 o droedfeddi mewn 10km rwy'n siŵr y bydd y ddau yn awyddus iawn i gynrychioli Cymru eto ar ôl profi'r sialens rhyngwladol a chyffrous yma.
|