Lan Cwm Mabws, draw at Lôn Sais ac yna at Gofadail Heddwch ar y Mynydd Bach.
Y cwestiwn cyntaf ym meddwl pawb oedd a oedd bws yn mynd i lwyddo i fynd lan yr heol fach gul a'i throeon, ond cafwyd yr ateb i hwnna pan ddaeth dau fws mini, a bant â'r cart (neu'r ceirt yn hytrach). Taith y stondin laeth oedd hon, ac wrth y stondin gyntaf, cawsom hanes macsu cwrw yn y cwm a thelyneg o'i eiddo gan Wil Evans, ac yna, cawsom gan John Morris Glan Carrog, hanes y cymeriad rhyfedd John Legona, gŵr o Gernyw a brynodd Penlan Mabws, a fu yn fwy o genedlaetholwr Cymreig na bron neb yn ei ddydd ac a waddolodd wobr sydd yn dal i gael ei rhannu heddiw gan y Llyfyrgell Genedlaethol.
Bu cyfle i'r rheiny oedd yn dymuno cerdded i gerdded i gilcyn yn lle y gellid gweld Plas Mabws, lle y cafwyd awgrym ynglyn ag ystyr y gair, rhai digwyddiadau rhyfedd yn gysylltiedig a'r lle, ac yna un o ddargynfyddiadau'r daith, sef hanes profiad Mrs Bet Davies, Caegwyn a'r toili.
Erbyn cyrraedd fferm Esgair, yr oedd Maldwyn Morgan yn ein disgwyl yn ei lawn hwyliau yn sôn am gymeriadau a digwyddiadau yng nghylch yr Esgair. Bu raid prysuro yn ein blaenau er mwyn cael cyflwyniad gan blant yr ysgol o Hanes Rhyfel y Sais Bach. Caewyd yr heol fawr ac yng ngwydd tŷ cyntaf Augustus Brackenbury (y Sais Bach) ac ar waelod y lôn a enwyd ar ei ôl cawsom gyflwyniad campus gan y plant, a oedd wedi'u gwisgo i gyfleu'r cyfnod ac wedi dysgu'u rhannau yn drwyadl a'u cyflwyno'n hyderus braf ar ganol y heol fawr, mewn modd y byddai eu cyndeidiau ar y Mynydd wedi bod yn falch ohono.
Cafwyd cân werin gan yr enillydd cenedlaethol Trefor Puw, ac ymlaen wedyn rhai ar droed, rhai yn y bws i Ysgol Cofadail. Bu Lowri Gwilym yn cyflwyno rhai o leoedd hynafol, diarffordd y mynydd trwy gyfrwng ffilm cyn i Beti Davies 'Prydyddes y Mynydd' gyflwyno ei phenillion hi yn adrodd hanes Wil Cefn Coch a ddihangodd i America er mwyn dianc rhag cyfraith gwlad. Cawsom wybod fod Mamgu Beti wedi chwarae rhan allweddol yn yr hanes, a chael ganddi fanylion newydd am yr hanes yma, sydd wedi'i gofnodi mewn sawl man. Wedi porthi'r dychymyg gyda'r holl hanesion fe ddaeth yn gyfle i borthi'r corff a darparwyd lluniaeth rhagorol gan gyfeillion Trefenter, cyn eistedd i wrando ar y cyfarwydd proffesiynol, Michael Harvey, yn cwbwlhau ei gylch o Bedair Cainc y Mabinogi gyda hanes Math fab Mathonwy a'r hanes rhyfeddaf ohonynt i gyd am Blodeuwedd y ferch a luniwyd o flodau.
Dychwelom i Lanrhystud ar ôl diwrnod bythgofiadwy ym mis Hydref, o unigedd hynafol pen y Mynydd Bach wedi blasu peth o'r hen rin sy'n perthyn i ardal lle y mae'r Gymraeg wedi derbyn blaenoriaeth er iddi ddod i fodolaeth dros fil a banner o flynyddoedd yn ôl.
|