Ar benwythnos Canol-Haf cynhaliwyd Gŵyl Rhedeg a Cherdded y Barcud Coch. Yn ystod y penwythnos bu dau gant o bobl o bob oedran yn cymryd rhan. Ar y Sadwrn daeth pobl o bob cwr o Brydain i Nant yr Arian, Ponterwyd i ymuno yn Sialens y Barcud Coch a oedd hefyd yn Bencampwriaeth Rhedeg Llwybrau Prydain a Chymru.
Ar ôl brwydro dros un filltir ar ddeg ar hyd llwybrau mynyddig ardal Nant yr Arian, Goginan a Phendam, llwyddodd Mathew Collins o Glwb Athletau Caerdydd i ennill y ras am y trydydd tro yn olynol mewn 1 awr 14 munud a 50 eiliad gyda Martin Shaw o Glwb Aberhonddu a Mark Shepherd o Dîm Kennet, Rhydychen yn ail a thrydydd.
Yn dynn wrth ei sodlau yr oedd y ferch gyntaf, Anna Frost o Glwb Wrecsam, sy'n enedigol o Seland Newydd ond sy'n awr yn athrawes yn Llangollen, mewn amser anhygoel o gyflym, 1 awr 19 munud a 21 eiliad, gan greu record newydd. Yn ei dilyn o bell roedd Rachel Elliott o Dîm Kennet a Phoebe Webster, enillwraig y llynedd o Glwb Prifysgol Aberystwyth.
Cafodd rhedwyr lleol dipyn o lwyddiant yn eu categorïau, gyda'r brodyr Clifford a Dic Evans o Abermagwr yn ennill medalau aur, Dave Powell o Ystumtuen a Geoff Oldrid o Aberffrwd yn cael medalau arian a Kevin Holland o Aberystwyth yn ennill medal efydd.
Yn ogystal â'r rhedwyr, troediwyd y llwybrau ychydig yn fwy hamddenol gan tua dau ddwsin o gerddwyr a llwyddodd pawb i gyrraedd yn ôl mewn pryd i weld y Barcutiaid Coch yn cael eu bwydo gan Ceredig Morgan.
Yn dilyn y Sialens, ar fore'r Sul, cynhaliwyd Ras y Diafol dros 18 milltir o Barc Carafannau'r Woodlands, Pontarfynach i fyny i Gwm Myherin, heibio'r Bwa, i lawr i dir yr Hafod, yn ôl heibio Gelmast a'r Bwa cyn disgyn yn ôl i mewn i Gwm Myherin ac i'r Maes Carafannau.
Y tro hwn Mark Shepherd a Rachel Elliott oedd yn fuddugol a thrwy hynny enillodd y ddau ohonynt dlysau Sialens y Barcud Coch am eu hymdrechion dros y penwythnos.
Fel ar y diwrnod cyntaf, cynhaliwyd taith gerdded o 12 milltir i gydredeg â'r ras, yn dechrau o'r Bwa ac yn dilyn y ddwy ran olaf o'r cwrs redeg.
Y tro hwn daeth bron 40 o blant ac oedolion i gerdded, llawer ohonynt yn codi arian tuag ar elusen yr ŵyl, sef 'Ward y Galon' Ysbyty Bronglais.
Ar ôl trosglwyddo'r gwobrau ar y Sul anrhegwyd rhai unigolion am eu hymdrechion dros nifer o flynyddoedd - Rowland a Pat Sherwood am weithio'r canlyniadau ar y cyfrifiadur, Enid Lewis Evans am godi'r swm mwyaf o arian tuag at yr Ysbyty yn 2007, ac i ddymuno'n dda i ddau aelod o Gymdeithas y Barcud Coch ar achlysur arbennig, sef Menna Stephens yn dilyn ei phriodas â Mark Bunton y prif gadlywydd a fydd yn dechrau ei yrfa yn y Llu Awyr yn fuan.
Hoffai Dic a'r pwyllgor, sy'n anelu at roi cyfle i bobl o bob cwr o Brydain a thu hwnt i gymryd rhan mewn gweithgaredd yn eu hamgylchfyd braf ac i godi arian tuag ar elusen leol, ddiolch o galon i bawb a gefnogodd yr ŵyl, y Noddwyr hael, y tirfeddianwyr, Cymdeithasau Rhedeg Prydain ac Athletau Cymru, yr holl wirfoddolwyr a'r cyfranogwyr a ddaeth o bell ac agos."