Mynd am Dro - Does Dim Byd Gwell
Yn ôl arolwg diweddar, nid yw 70% ohonom yng Nghymru yn gwneud digon o ymarfer corff, ac er y bydd llawer ohonom yn mynd am dro y Nadolig hwn, dim ond y rheiny sy'n parhau i ymarfer am tua hanner awr 5-diwrnod-yr-wythnos a fydd yn cael y manteision iechyd a argymhellir.
Yn ôl yr arbenigwyr, mae ymarfer corff rheolaidd nid yn unig yn lleihau'r risg o gael afiechydon difrifol, fel clefyd y galon a chanser y coluddyn, ond gall hefyd fod yn help mawr i leihau poendod meddwl.
Cefn Gwlad - Ble i fynd?
Gyda thua 22% o gefn gwlad Cymru ar agor i'r cyhoedd, mae'r cyfleoedd i fwynhau ein treftadaeth naturiol yn fwy nag y bu ers talwm iawn. Fel arfer, mae llwybrau cyhoeddus yn adnodd lleol pwysig, ond ers Mai 2005 mae gan y cyhoedd hawl hefyd i gerdded ar ardaloedd eang o fynyddoedd agored a rhostiroedd. Er mwyn darganfod mwy am fynediad agored yn eich ardal ffoniwch y Cyngor Cefn Gwlad ar 0845 130 6229, neu ewch i 'Mynediad i Gefn Gwlad'. Llwybrau Cenedlaethol
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhoi cyfle i'r cerddwr archwilio gororau Cymru o un o henebion archeolegol pwysicaf Ewrop. Twmpath anferth o bridd a cherrig o'r 8fed ganrif yw Clawdd Offa, sy'n ffurfio'r hen ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae Llwybr Glyndŵr (Powys) a Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro hefyd yn rhoi cyfle i'r cerddwr weld rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol Cymru. I gael manylion ffoniwch 0845 130 6229, neu ewch i wefan y Cyngor Cefn Gwlad. Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Mae gan Gymru 66 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a ddewiswyd oherwydd eu bywyd gwyllt arbennig a'u harddwch naturiol eithriadol. Tra bod Cadair Idris a Chwm Idwal yn Eryri yn cynnig golygfeydd myr.yddig dramatig a thirweddau iasol i'r cerddwr mynydd, mae twyni tywod Oxwich a chlogwyni calchfaen Arfordir Gŵyr yn cynnig cyfoeth o gynefinoedd bywyd gwyllt i gerddwyr, yn ogystal
â rhai o'r golygfeydd arfordirol harddaf yn Ewrop. I gael manylion am y rhain a llawer eraill o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru, ffoniwch 0845 130 6229 neu ewch i wefan y Cyngor Cefn Gwlad (uchod) a cliciwch ar 'Llefydd i Ymweld'. Mentrau Cerdded Oherwydd y manteision sylweddol a ddaw i'r iechyd yn sgil cerdded, mae'r Cyngor Cefn Gwlad, ynghyd â Sefydliad Prydeinig y Galon - gydag arian ychwanegol gan y Gronfa Loteri Fawr - wedi cychwyn cynllun i annog pobl segur i gerdded mwy. Mae 'Cerdded Llwybr Iechyd' wedi sefydlu nifer o brosiectau cerdded o dan arweiniad y gymuned mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae iechyd y trigolion yn wael, ac mae tua 40,000 o bobl eisoes wedi elwa ar y cyfle i fynd allan a mwynhau eu hamgylcheddau lleol. Am ragor o fanylion, ffoniwch 0845 130 6229, neu ewch i Erthygl gan Jonathan Neale, Ysgrifennwr Erthyglau Cyngor Cefn Gwlad Cymru
|