I Phyllis a Mered ar achlysur eu priodas ddiemwnt
Llongyfarchion ddaw o'r galon, trigain mlynedd llon eu byd,
Dau'n byrlymu o gerddoriaeth, aelwyd Afallon yn gyd-gân o hyd;
`Rô1 magwraeth yn Nhanygrisiau, aeth Merêd i Harlech yn diwtor bach ffel,
Sylwodd rhyw noson o gong! ei lygad ar ferch oedd 'da'r opera - bois bach roedd hi'n ddel.
Roedd hon yn gantores, nid oedd dim amheuaeth
A Merêd aeth i'w chwarfod cyn diwedd yr hwyr,
Fe gwympodd mewn cariad o'i ben lawr i'w sawdl,
A'r Americanes hithau wedi dotio yn llwyr;
Nid oedd angen petruso, roedd yn rhaid iddo fentro.
A gofyn a wnaeth am ei llaw `there and then',
A hithau atebodd `If you don't mind my language,
I'm willing to risk it whatever the trend'.
Ac yn wir, ymhen blwyddyn daeth Luned i'r adwy
Yn bleser o'r mwyaf, canwyll llygad y ddau,
A Merêd wrth ei fodd yn newid cewynnau
Tra bu Phyllis yn canu - pencampwraig ddi-fai;
Ymhen rhai blynyddoedd aeth y teulu yn gyfan
I wlad teulu Phyllis - America faith -
Ond buan daeth hiraeth ar y gŵr o Dangrisiau
Am Gymru a'i gwerin, ei chaneuon a'i hiaith.
Felly, dychwel i Fangor i swydd oedd yn plesio,
A Phyllis a Luned yn dysgu'r hen iaith:
Cawsom fôr o fwynhad drwy gyfrwng y radio
Gyda'r beic peni-ffardding a'r triawd ar daith;
Bu Merêd yn garedig i sawl person ifanc
A'u rhoi ar y ffordd i gael swyddi o fri
Ac fe glywn ar y radio bob dydd, hen ddisgyblion
Yn diolch iddo fo am gynghorion di-ri'.
`Rôl treulio blynyddoedd yin mhrifddinas Cymru
Meddyliodd y ddau am ymadael â'r dre,
Cwympasant mewn cariad â harddwch Cwmystwyth
A ninnau yn falch o'u croesawu i'r lle,
Ond nid ar ymddeol roedd meddwl y ddeuddyn,
Mae'r ddau wrthi'n brysur ar doriad y wawr -
Mae Phyllis mewn stydi'n y llofft 'da'r compiwtar
A'r doctor mewn llyfrgell wrth ei fodd, ar y llawr.
Daw atgofion melys heddiw, Fe ddaw rhai atgofion trist,
Ewch ymlaen am gyfnod eto
Gyda ffydd yn lesu Grist.
Ysgrifenwyd y gerdd gan Blodwen Griffiths, Sgubor Fach