91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Mr Peter Loxdale yn derbny copi o'r llyfr 'Y Ganrif Gyntaf' gan Mr Neville Jones Sioe Llanilar - Llwyddiant y Canmlwyddiant
Medi 2004
Gall y Llywydd, Mr Peter Loxdale Y.H., D.L., a'i bwyllgor fod yn hynod o hapus wrth iddynt edrych yn ôl ar weithgareddau 'Sioe y Ganrif'.

Hyfryd oedd gweld y ddau gae Castle Hill yn orlawn, a heulwen Awst yn tywynnu, a'r seindorf arian yn chwarae fel y bu yn 1904. Oes ma' na newidiadau a gwelliannau lu ers hynny ond diolch am ymddygiad y werin bobl, ac am ei haberth i gadw'r fflam yng nghyn, mewn llawer cyfnod o galedwch, yn enwedig ar ôl y ddau ryfel byd.

Iddynt hwy mae'r diolch ein bod ni heddiw yn dathlu llafur ddoe. Mawr yw ein gobaith felly bydd ein Sioe yn dal i ffynnu a mynd o nerth i nerth. Dyma'r pwyth sydd gyda ni i'n cyndeidiau.

Manteisiwyd ar y cyfle i roi y dathliad ar gof a chadw trwy gyhoeddi llyfr sydd wedi cael adolygiad gogoneddus, nid yn unig gyda'r Arglwydd Morris o Aberafan ond pobl y dalgylch.

Gallwn fesur ei boblogrwydd trwy'r gwerthiant sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Oes mae na stoc ar gael o hyd am bris rhesymol o £5. Manteisiwn, fel pwyllgor, trwy dudalennau'r Ddolen, i ddiolch i'r canlynol am gadw stoc i'w gwerthu - Siop Inc Aberystwyth. CCF Co-op Parcyllyn, Garej Llanilar a hefyd Siop y Pentref.

Braf oedd gweld Eglwys y Plwyf yn orlawn i ganu Emynau o Fawl a ddewiswyd gan aelodau â chysylltiad efo'r Sioe. Hyfryd oedd cael y cyfle i goroni'r penwythnos mewn modd urddasol. Cyn cloi'r cyfan cafwyd paned a'r cyfle olaf i weld yr arddangosfa yng Nghanolfan Gymunedol y Pentref. Cawsom y fraint o flasu teisen y canmlwyddiant a oedd wedi ei chyflwyno ar gyfer yr achlysur gan Mrs Tegwen Richards, Glanllyn Hall.

Wrth ddiolch i bawb, cyflwynodd Mr Loxdale gopi o'r llyfr 'Y Ganrif Gyntaf' i swyddogion y ganolfan. Mae yn gopi unigryw gan ei fod wedi ei archebu gan y llywydd ac wedi ei gynhyrchu gyda clawr lledr. Diolch pwyllgor y Sioe yw hyn am gyd-weothrediad pobl yr ardal dros y blynyddoedd.

Mae rhestr o ganlyniadau Sioe Llanilar yn rhifyn mis Medi o'r Ddolen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý