91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
India Dyddiadur o Wlad Bell
Gorffennaf 06
Erbyn diwedd mis Gorffennaf bydd Emma Lionel wedi treulio yn agos i bum mis yn gynorthwywraig dosbarth yn Manali, Himachal Pradesh. Dyma ran gyntaf ei dyddiadur.

Cyrraedd Manali ar fore dydd Llun 27 Chwefror ar ôl gwario 14 awr ar fws o Delhi. Treulio'r dydd yn cael ein tywys o gwmpas Manali, ffeindio ffôn a 'shalwar kameez' - sef y wisg draddodiadol i fenywod yma. Tre debyg i Aberystwyth yw Manali, nifer o siopau teilwriaid yn gwerthu defnydd a dillad lleol fel y shol Kullu, nifer o siopau twristaidd yn trefnu teithiau o i un lle i'r llall a nifer o stondinau ffrwythau. Ma' yna nifer fawr o lefydd i fwyta yma, pob math o wahanol fwydydd - indiaidd, tsieineaidd, tibetaidd, israelaidd ac wrth gwrs bwydydd cyfandirol!

Treulio'r noswaith gynta yn glanhau f'stafell, ddim yn edrych fel pe bai neb wedi ei glanhau ers amser! Stafell fechan, weddol gartrefol ar ôl rhoi lluniau, posteri a mapiau i fyny! Sinc a dau hob nwy - dyna'r gegin! Yn yr ystafell ymolch mae yna sinc a thoilet a dau fwced, ie dyna'r bath! Does dim dŵr poeth, mae'n rhaid i ni gynhesu'r dwr gyda choil trydan - heb gael sioc eto diolch byth! Rydym ni'n cael cinio a swper ar gampws yr ysgol, bwyd yn ffantastig, digon o ddewis a rhad ofnadwy, mae'n costio tua £13 y mis!

Yn yr ysgol
Dechrau yn yr ysgol ar y laf o Fawrth. Ysgol Gristnogol Saesneg ydy hi ond mae bron hanner y disgyblion yn blant Hindwiaid, ma' nhw'n dod i'r ysgol oherwydd ei bod hi'n un dda. Ma yna tua 450 o blant yn yr ysgol o 4 i 15 mlwydd oed. Dw i 'di cael fy rhoi hefo'r plant iau, ambell i wers yn y bore gyda'r dosbarth meithrin yn gwneud posteri i addurno'r dosbarth a cheisio cadw'r plant yn hapus! Gyda'r dosbarthau 1 i 4 dw i'n cynorthwyo drwy ddarllen gyda'r plant gwan a dysgu gemau newydd iddynt yn y gwersi chwaraeon! Fi sydd yn gyfrifol am farcio ysgrifennu creadigol y dosbarthiadau hyn hefyd!

Ar fore dydd Sadwrn 8 Ebrill, roedd diwrnod gwobrwyo yr ysgol. Cefais y cyfle i wisgo 'saree' achos bod rhaid i'r athrawon i gyd wisgo yn smart! Dydd Sadwrn 22 Ebrill roedd y gystadleuaeth canu - diddorol iawn oherwydd bod y rhan fwyaf o'r caneuon yn Hindi. Mis Mai mae yna gystadleuaeth gwisg ffansi a dawnsio ac ym mis Mehefin bydd cystadleuaeth Rangoli (gwneud patrymau gyda phowdwr lliw) a chystadleuaeth gosod blodau. Tebyg iawn i'r hyn fyddai'n digwydd mewn eisteddfod ysgol adre ond bod y cystadlaethau yn cael eu cynnal ar hyd y flwyddyn, bydd yna gystadlaethau adrodd a ysgrifennu yn ystod y tymor nesaf!

Cartref y Dalai Lama
Ar y penwythnosau dw i'n gwneud llawer o bethau diddorol, wedi bod yn sgÑ—o, gweld nifer o demlau, wedi bod yn Kullu sef prif dref y dalaith leol, Himachal Pradesh. Wedi bod yn Dharamasala a gweld nifer o fynachod oherwydd yma mae Llywodraeth Tibet wedi'i alltudio a dyma lle ma'r Dalai Lama yn byw. Fe aethon ni i fynachlog y Dalai Lama tra oedden ni yno ond doedd e ddim yna. Wythnos diwetha fe aethon ni am dro i weld rhaeadr anhygoel.

Dewch yn ôl yn mis Medi i ddarllen ail hanner y dyddiadur a gweld lluniau anhygoel Emma


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý