Y dyn a'i cyfansoddodd, John Davies, ar gyfer emyn dau bennill, oedd yr un y gwelir ei lasenw, uchod.
Fe'i ganwyd ar 18 Mawrth, 1840, yn blentyn i John ac Elizabeth Davies, Tancwarel, Llanafan a bu farw ym mis Mawrth, 1887, yn saith a deugain oed.
Lladdwyd y tad, ynghyd â dau o'i feibion, mewn tanchwa enbyd yng Nglofa Blaenllechau ger Ferndale, Y Rhondda Fach, yn 1867.
Bu John Davies y Cantwr yntau yn löwr am gyfnod a dioddefodd yntau ddamwain mewn pwll glo, a effeithiodd yn ddifrifol arno weddill ei oes, cyn iddo ddychwelyd yn derfynol i fyw i Llety Hywel, Ysbyty Ystwyth.
Roedd yn briod ag Ellen Davey, aelod o deulu a symudodd i fyw i'r ardaloedd hyn o Gernyw, gyda'r tad yn gweithio fel gof.
Cawsant bump o blant, y trydydd ohonynt wedi ei fedyddio yn Richard Davey Davies (1879-1957) a phriododd yntau yn ei dro ag Elizabeth Davies, Penffynnon, Cwmystwyth. Sefydlasant yn Ysgoldy y Cwm, gan symud yn ddiweddarach i Chapel Street (Afallon, ar hyn o bryd) ac oddi yno i Brynpeiran.
Cawsant ddau o blant, John ldris Davies (1906-1986) ac Eunice Alwyna Davies, a welodd oleuni dydd gyntaf yn 1908 ac sydd, mae'n dda medru dweud, yn dal ar dir y byw mor gynnes ei chwmniaeth ag erioed.
Ymbriododd hi â Daniel Davies, Erwtome, Llanfihangel-y-Creuddyn Uchaf, a chawsant bedair merch a dau fab: Garwyn, Eirlys, Marian, Brython, Gweneira a Llinos.
A dyna bontio yn agos i ganrif o beth o hanes un o deuluoedd yr ardaloedd hyn.
A throi'n ôl yn benodol rwan at y Cantwr yn y teulu. Yn Eisteddfod Glannau Ystwyth, 9 Awst, 1946, pwnc cystadleuaeth y Traethawd oedd 'Hen Godwyr Canu Ysbyty Ystwyth a'r Cylch' ac un o'r cystadleuwyr oedd Richard Davey Davies, Brynpeiran.
Yn ddiweddarach, yn rhifyn 30 lonawr, 1958, y Welsh Gazette cyhoeddwyd rhan gyntaf y traethawd hwnnw, yn cynnwys peth gwybodaeth am weithgaredd cerddorol John Davies bach y Cantwr; yn bennaf, ei gyfraniad i ganu corawl ei ardal mewn capeli ac eisteddfodau.
Mae'n amlwg iddo hefyd gyfansoddi rhai darnau cerddorol ond yr unig waith o'i eiddo ymysg creiriau'r teulu yw emyn ac emyn-dôn a gyhoeddwyd yn rhifyn Ebrill, 1887, 'Y Lladmerydd', sef cylchgrawn ar gyfer Ysgolion Sul enwad y Methodistaidd Calfinaidd a sefydlwyd yn 1885.
Gwaetha'r modd ni chafodd John Davies weld ei gyfansoddiad mewn print. Fe'i claddwyd union fis cyn i hwnnw ymddangos yn y ddiwyg honno.
Sut bynnag, gan hyfryted yw alaw a threfniant 'Maesglas' haedda ail gyhoeddiad ar ddalennau ein papur bro a dyma, felly, atgynhyrchu'r copi o'r cyfansoddiad a ddarganfuwyd gan Garwyn rhwng tudalennau Beibl y teulu, a diolch yn neilltuol i'r ddau frawd, Brython a Garwyn, am roi copi ar gadw yn archif Cofnodion Cwmystwyth.