"Ar ôl hir ddisgwyl a threfnu manwl fe wawriodd bore cyntaf yr Aduniad, Sadwrn 16 Mai.
Glawiog fore ond erbyn hanner dydd fe ddaeth yr haul i wenu arnom. Cyfle arbennig i ddathlu amgylchiad hanesyddol yn y Cwm.
Achlysur i'w gofio a'i drysori, a fydd yn destun siarad am gyfnod hir. Cyfnod o hanner can mlynedd yn cael ei drafod mewn deuddydd. Y pell a'r agos wedi dod ynghyd, pawb yn wên o glust i glust, ac yn y wên roedd ambell i ddeigryn hiraeth a gwir emosiwn. Cofleidio gwresog ac ambell i gusan cariadus.
Roedd breuddwyd amser o'r diwedd wedi deffro ac wedi dod yn realiti. Cafwyd y cyfle i gwrdd â chyfeillion bore oes, rhai wedi ymdrechu yn galed ac wedi teithio pellter, eraill yn methu oherwydd pellter byd, and wedi bod yn ddigon cwrtais i godi'r ffôn. Hefin Morgan yn Seland Newydd yn hiraethu am fod yn rhan o'r dathlu ac yn dymuno pob llwyddiant i'r fenter yn ei absenoldeb. Ein diolch i Hefin.
Agorwyd yr Aduniad yn swyddogol ar y prynhawn Sadwrn yng Nghapel Silo am gan Mrs Mona Howells o Bontarfynach a'r Fonesig 0lwen Howells o Bonterwyd. y ddwy wedi bod yn Athrawon yn y Cwm cyn i'r ysgol gau nôl yn 1960.
Adeg y cau, nid oedd and pump o blant yn yr ysgol. Cawsom gan y ddwy ddatganiad cofiadwy o'u hamser yn y Cwm; atgofion melys a hapus am y plant a'r gymdeithas glos oedd yn bodoli ar y pryd. Roedd pwysigrwydd mawr yn cael ei roddi bryd hynny ar ddarllen ac ysgrifennu, ac ysgol fach y wlad yn rhan bwysig o ddiwylliant y pentref ac yn sylfaen gadarn i ddyfodol a llwyddiant pob plentyn.
Calondid i lawer oedd gweld y capel yn llawn ac atsain y canu i'w glywed o bell. 0 fewn y capel roedd arddangosfa ddiddorol, yn olrhain hanes addysg y Cwm mewn lluniau hanesyddol o 1837 hyd y diwrnod olaf yn ystod Haf 1960. Dyma gyfle gwerthfawr i lawer olrhain hanes eu teuluoedd ac i ninnau'r trefnwyr gael rhagor o wybodaeth am y gorffennol ac i helaethu ein casgliad gwerthfawr o luniau.
Yn ystod y dydd bu cyfle arbennig i fyned ar daith ym mws bach y Gymuned o amgylch yr ardal, gan ddechrau drwy weld Gardd Eden wedi ei hadnewyddu, y plas yn adfeilion, yna ymlaen o amgylch Rhos Peiran ac i fyny drwy'r gwaith mwyn hyd at Esgair Wen. Cafodd eraill gyfle i fyned am Lyn Rhyddnant a Chefn Croes i weld y Melinau Gwynt yn eu gogoniant, llawer wedi synnu ac yn gwerthfawrogi cael y cyfle i weld y fath olygfa. Barn y mwyafrif oedd, harddach y melinau na gorsaf niwclear.
Ger y capel roedd fan fwyd Ann a Merfyn Bunton. Cyfle gwych i eistedd, bwyta, siarad a gwneud yn siwr pwy oedd pwy. Cyfle hefyd i aelodau'r pwyllgor gyfarwyddo a phawb oedd yn bresennol ac i yfed mwy nag un cwpaned o de.
Yn ystod y dydd cafodd perchennog presennol yr ysgol gyfle arbennig i ganu hen gloch yr ysgol ac i alw'r plant yn ô i ddathlu. Ein diolch i Blod am gyfansoddi geiriau arbennig i gofio'r amgylchiad.
Cloch yr ysgol sydd yn canu,
Galw'r plant yn ôl i ddathlu.
Maent wedi dod o bob cyfeiriad,
Croeso cynnes nol i'r uniad.
Gwerthfawrogwn hefyd fod Hedd Bleddyn wedi cyfansoddi geiriau addas ar gyfer yr Aduniad. Bu ef hefyd yn ddigon call i ennill serch Marian, merch o'r Cwm,
Afiaith hen ddyddiau difyr - a'i antur
I blentyn yn gysur,
Yn y Cwm ni welwyd cur
Na gofid, dyna gofir.
O uno mews aduniad - yn y Cwm,
Yma cawn y profiad
O awr hud y plannu'r had
Ym more creu cymeriad.
Un unig yw'r Cwm heno - a'i ysgol
Heb ddesgiau, heb gyffro,
Er yn llwm daw'r Cwm i'r co
Ni natur unwaith eto.
Erbyn chwech o'r gloch roedd yn amser cau drysau Siloam, pincio ychydig cyn ymgynnull yng Ngwesty'r Hafod am swper. Cyfle arall i eistedd ac i drin a thrafod troeon bywyd dros gyfnod hir. Coffer fod rhai dros eu hwythdegau ac wedi teithio o bell. Mae ein diolch yn fawr i Ifonwy a ddaeth o Northampton, Edith o Southampton a Gareth a Jean o Essex, heb anghofio am Hefin yn ffonio o Seland Newydd. I ddiweddu'r y noson cawsom gyfle arbennig i ganu rhai hen alawon yng nghwmni Bryan wrth yr organ.
Erbyn bore dydd Sul, hyfryd oedd gweld cynifer yn troi am Eglwys Newyddyr Hafod i gymryd rhan mewn gwasanaeth o fawl a diolch. Roedd y gwasanaeth dan ofal y Parch. Ingrid Rose. Darllenwyd y Llithiau gan Margaret Hughes a Blodwen Griffiths. Ric Lloyd oedd wrth yr organ yn yr Eglwys ac yn y Capel ar y dydd Sadwrn. Roedd yr Eglwys yn llawn a'r canu yn wefreiddiol. Gwasanaeth i'w gofio a'i drysori.
Cyn ffarwelio a gadael am adref rhaid oedd galw yn Ysgoldy Goch am luniaeth ysgafn a chlonc arall. Gwyddom pan ddaw'r Nadolig y bydd llawer mwy o gardiau yn newid dwylo o hyn ymlaen.
Yn sicr penwythnos bythgofiadwy Diolch i bawb a fu'n rhan o'r dathlu, heb anghofio y ddau wyneb to cefn i'r camerau, sef John ac Alun, hefyd Chris yng ngofal y peiriant sain.
Ein diolch yn arbennig i Elin Jones a Marc Williams am ddod atom i gefnogi'r amgylchiad.
Cyn rhoi terfyn ar yr hanes. priodol heddiw yw dyfynnu y geiriau olaf a ysgrifennwyd yn Log yr Ysgol gan Miss Mari Evans, a fu yn Athrawes ac yn Brifathrawes yr ysgol am ran helaeth o'i hoes. Pa ddewin a ddywedodd wrthi y byddai'r geiriau yn parhau i fod yn wirionedd hyd y dydd heddiw, ac yn batrwm ystyriaeth i'n Cynghorau Addysg;
`The past half-century has been a period of change. Today sees a Britain as thickly studded with TV masts as the candles. Along the highways cars rush in a frantic attempt to travel between two points in the shortest time. To such a world, the closure of a small village School is a matter of little importance. And yet for some it spells the end of a way of life where the village school has been the centre of the cultural as well as of the scholastic life of the community. The inevitable centralisation of community services is tidier and economically sounder but what of the gaps left? ... It is to be hoped that the Welshman will retain his highly individual way of thinking and of life despite bureaucracy and centralization.'
Fel Pwyllgor yr Aduniad yr cydnabod ein bod yn ddyledus I Archifau Cymunedol Cymru am gymorth ac arweiniad i greu a rhannu hanes lleol mewn partneriaeth efo Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Drwyddynt hwy yr ydym wedi cael y deunydd digiidol i roddi ein holl hanes lleol ar gof a chadw ac i fod o fudd i'r gymuned leol a hefyd i'w rannu â'r gymuned fyd-eang sydd i'w gweld ar www.cymruni.org.uk"
Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allano.
l