Ceisiai fy nhad-cu a'm mam-gu grafu bywoliaeth drwy werthu ychydig o laeth a wyn stôr. Cofiaf drin y sofl ar ben y Fforden fach a minnau bron yn rhy wan i droi'r handlen i gychwyn y tractor. Hen arad lusgo oedd gyda ni'n troi gyda pheg bren yn ei dal wrth y tractor. Petai'r arad yn taro'n erbyn carreg wedyn byddai'r peg yn torri cyn creu difrod.
Y dasg nesa' oedd paratoi'r tir drwy ei lyfnu ac yna rhoi'r gryniwr yn sownd wrth yr hen goben goch. Byddai hi wedi bod yn y stabal drwy'r gaeaf yn bwyta brig yr ysgubau a dyna hwyl gaem ni'r plant wrth wylio Dad-cu yn ceisio cadw rheolaeth ar y gaseg oherwydd hynny. Ar ôl hau y tatws mynd drwy'r un broses wedyn gyda'r sweds, mangls a'r maip.
Cofiaf Dad-cu yn hau llafur gyda chynfasen fawr wen a ninnau'r plant yn symud picwarch i fyny'r dalar fel bod ganddo fart i anelu ato.Wedi i'r tymor wyna orffen symud y defaid a'r wyn i lawr i'r rhostir am yr haf ac yna byddai Dad-cu'n hau ciwana efo llaw gyda strapen harnais y gaseg am ei wddf i ddal y bwced. Cyn dechrau ar y gwair roedd yn rhaid mynd ati i gwympo y mangls a'r sweds gyda sachau hesian wedi eu clymu am y coesau i arbed y pen gliniau.
Y tywydd yn gwella i fynd at y gwair o'r diwedd a dechrau torri, yna mewn diwrnod neu ddau moelyd ystodiau gyda rhacannau bach. Wedyn gan fod yna gwmwl du yn yr awyr rhaid oedd mydylu. Cas beth gen i oedd gwneud hynny oherwydd gyda meddwl plentyn nid oeddem yn gallu gweld y pwrpas gan ein bod rhan amlaf yn eu hysgwyd allan y diwrnod canlynol, ond wrth dyfu'n hyn yn sylweddoli gwerth mwdwl gan fod y gwair yn sych ar ôl diwrnodau o law.
Cario'r gwair gyda'r gaseg goch yn y gambo a Mam druan bob amser ar ben y llwyth. Deuai contractiwr i dorri'r ceirch, na, dim efo tractor a rhwymwr na chmobein ond efo dwy gaseg yn tynnu'r injan gyda John yn eistedd arni.
Roedd ffetan wedi ei chlymu tu ôl i'r bar torri i ddal y llafur, ac yna pan fyddai digon ar y ffetan i wneud ysgub ei dynnu i ffwrdd. Byddai'r cymdogion yn dod ynghyd y diwrnod hwnnw a'r gwragedd yn rhwymo'r ysgubau a ninnau blant yn eu stacio yn rhesi. Cael te allan yn y cae, picnic go iawn.
Y dasg ddiwethaf cyn y gaeaf oedd tynnu'r tatw a gweddill y llysiau. Gwaith tri neu bedwar diwrnod oherwydd un peiriant tynnu tatws oedd rhwng ffermydd yr ardal a byddai pawb wedyn yn helpu ei gilydd. Arllwys y tatws allan yn y sied i sychu ac yna gorchwyl arall atgas sef didoli'r tatws.
Eisteddwn ar stôl odro, tatws bwyta mewn un bwced, tatws hau y flwyddyn nesaf yn yr ail a thatws mân yn y bwced olaf. Byddai Dad-cu yn rhoi y tatws hau mewn clâdd i'w cadw rhag y rhew tra byddai Mam-gu yn berwi'r tatws mân mewn pair a'u defnyddio i besgi'r mochyn a'r twrcis a'r gwyddau erbyn y Nadolig. Ninnau'r plant yn mwynhau stwmp tatw, menyn cartre a Ilaeth mwyn.
Roedd yn amser caled ond pawb i weld yn hapus ac yn hunan gynhaliol. Mae'r arferion hyn i gyd wedi diflannu. Pan ddechreuais weithio yn Amaethwyr Ceredigion nôl yn chwedegau y ganrif ddiwethaf roeddem yn gwerthu tua 40 tunnell o hâd llafur a barlys bob blwyddyn a rhyw 20 tunnell o datws hâd, ond erbyn heddiw gallwch rifo y tunnelli ar un llaw. Gwerthem dunelli o fwyd moch a ieir hefyd ond ychydig iawn nawr.
Odi ni wedi mynd yn genedl ddiog? Mae'n haws mynd i'r archfarchnad i brynu ein holl anghenion. Doedd dim sôn am y gair mawr traceability - pawb yn gwybod lle roedd y cig wedi ei gynhyrchu - gartre.
Ar ôl 37 o flynyddoedd yn y diwydiant rwy'n teimlo fy mod innau wedi cyrraedd hydref fy ngyrfa i. Er hynny, un peth rwy' wedi ail-ddechrau wneud eleni yw tyfu llysiau yn y cae fel bo fy wyrion bach i yn deall mai nid ar y silff mae cael popeth.
Alan Evans