Ar fore Gŵyl San Steffan roedd Clwb Pêl-Droed Llanilar a'i cefnogwyr wedi codi yn blygeiniol ac ar eu ffordd i gopa Pumlumon ar ddechrau diwrnod o antur. Amcan y cyfan oedd codi arian tuag at LATCH (elusen sy'n ymchwilio i Gancr mewn Plant.) Yn hytrach na dilyn afon Rheidol, dilynwyd yr A44 drwy gicio pêl yr holl ffordd i rwyd cae pêl-droed Aberystwyth. Cafwyd tipyn o hwyl ar y daith ond roedd yna hefyd dinc o dristwch tu ôl y cyfan gan ein bod rai dyddiau ynghynt wedi gorfod ffarwelio ag Urien Williams ac yntau ond yn un-ar-ddeg oed. Addas felly oedd codi arian at yr achos teilwng hwn a chofiwn fod yna ferch ifanc arall yn y pentref yn dioddef o aflwydd cyffelyb ar hyn o bryd. Roedd Urien wedi bod yn aelod o'r tîm ifanc ac yn gefnogwr brwd i dimau Llanilar a Lerpwl. Wedi cyrraedd Aberystwyth ciciwyd y bêl i'r rhwyd gan Catrin, chwaer ieuengaf Urien. Llwyddwyd i godi mil o bunnoedd ar y dydd. Y trefnydd oedd y Cyn-Ringyll Hugh Morgan a diolch iddo am ei weledigaeth a'i waith tawel tu ôl i'r llenni. Mae'r gronfa yn dal ar agor ac os hoffai rywun o gylch y DDOLEN gyfrannu cysyllter á Hugh Morgan yn l, Clos Cadno neu fe fyddaf i (Beti Griffiths) yn ddigon parod i'w dderbyn a'i drosglwyddo i'r gronfa deilwng hon. Diolch i'r Clwb a'i cefnogwyr am eu hymdrech glodwiw yn nhymor Ewyllys Da. Erthygl gan Beti Griffiths
|