Noson gartrefol gafwyd gan Gymdeithas y Gwenynwyr yn Nhafarn y Ffermwyr ddiwedd Chwefror. Noson o edrych yn ôl ar luniau fideo o'r saith a'r wyth degau trwy lygaid y diweddar Meic Williams - cyfarwydd ac enwog i bobl Llanfihangel a thu hwnt i fflniau'r plwyf. Roedd ein diweddar gyfaill yn ddyn o flaen ei amser gyda'i gamera symudol yn rhoi ar gof a chadw ddigwyddiadau'r ardal a chip ar lawer hen gymeriad. Roedd hyn yn weithred sydd yn dwyn llawer o bleser i lawer ohonom a thrueni na fuasai eraill wedi gweld gwerth mewn rhywbeth tebyg. Roedd ystafell gefn Tafarn y Ffermwyr yn llawn i'r ymylon a phawb yn edrych ymlaen i weld ei hun mewn ysgol neu garnifal a hyd yn oed rhai lluwchfeydd eira ddechrau'r wythdegau. Rhai yn blantos swil ac eraill heb fawr i'w ddweud o flaen y camera er fod cloch ymhob dant ganddynt fel rheol ar ben ffordd neu yn sgubor y cneifio. Cawsom gipolwg ar fywyd y pentref cyn dod y newid sydyn mewn iaith a chymdogaeth dda sydd wedi chwyldroi ein bywyd cymdeithasol. Bu Meirion, Ty Capel, wrthi'n brysur dros yr wythnosau diwethaf yn dewis a didol deunydd ei frawd a mawr oedd diolch y Gymdeithas, a phawb oedd yn bresennol iddo. Cafwyd raffl yn ystod y nos a phenderfynwyd rhannu'r elw rhwng dau achos teilwng lleol. Erthygl gan Mrs M R George
|