Clonc yn dathlu 25 - lluniau a chlipiau sain
Dyma atgofion Elin Williams.
Roeddwn i yno adeg y cenhedlu, y beichiogrwydd a'r geni ac rwy'n hynod o falch i mi hefyd fod yno ym mhum mlynedd ffurfiannol cyntaf y baban hwnnw, sef Clonc! Ac wrth gwrs wrth i Clonc ddathlu pen-blwydd yn chwarter canrif oed, mae rhywun yn rhwym o eisiau edrych yn ôl a hel atgofion (a sylweddoli cymaint o ddŵr sydd wedi mynd o dan y bont ers hynny!)
Yn y dechreuad...
Nôl yn 1981 roedd criw ohonom yn gweld bod papurau bro yn ffenomenon rhyfeddol mewn nifer fawr o froydd yng Nghymru ac yn awyddus i weld papur bro yn ardal Llambed hefyd. Y gobaith a'r disgwyl oedd y byddai papur fel hwn yn denu pobl nad oeddent yn arfer darllen Cymraeg i ddarllen yr iaith a magu hyder. Roedd y papur hefyd yn mynd i gadw pobl mewn cysylltiad â'i gilydd a rhoi llais a bri i fywyd bob dydd pobol yr ardal. Doedd dim byd yn rhy ddibwys i'w gynnwys. Ar y llaw arall roedd cyfle i ddathlu a chodi ambell gwestiwn a gwthio ambell syniad yn ei flaen.
Rhaid cydnabod yma gefnogaeth ac anogaeth Cen Llwyd i'r fenter. Yn sicr bu'n gefn mawr i Nans Davies (Williams ar y pryd) a minnau, y golygyddion cyntaf. Roedd y ddwy ohonom newydd ddod adref i weithio yn yr ardal ar ôl bod yn y coleg ym Mangor ac yn frwdfrydig iawn.
Mae'r rhan fwyaf o'r hanes cynnar hwnnw wedi ei gofnodi yn y cofnodion sydd dal ar gael. Roedden ni'n dechrau gyda dalen wag. Rwy'n cofio mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol a phori trwy ugeiniau o bapurau bro o ardaloedd eraill er mwyn gweld sut oedden nhw'n mynd ati. Yn sicr roedd yno gyfoeth o syniadau. Yna roedd yn rhaid cael gohebwyr i bob pentref; swyddogion ar gyfer yr ochr fusnes; penderfynu ar ddelwedd, diwyg a logo; trefnu cysodwyr a gwasg; meddwl am golofnau a cholofnwyr rheolaidd; trefnu dosbarthwyr... Ac wrth gwrs cael enw.
Bu'n rhaid cael cystadleuaeth, a 'nhad i, Cofrestrydd Genedigaethau wrth ei alwedigaeth, a enillodd gyda'r enw 'Clonc'! Aeth yntau ymlaen wedyn i fod yn Gadeirydd Clonc am 15 mlynedd. Roedd y cyfan yn mynd i fod yn her ariannol yn sicr gan nad oedd y grantiau sydd ar gael heddiw yn bodoli. Ar y pryd roedden ni'n credu y byddai codi arian yn rhan o hwyl y sefydlu - yn tynnu pobl at ei gilydd - ond buan y daethom i sylweddoli bod pob rhodd ariannol at yr achos yn ysgafnhau'r baich.
Ar ôl i Nans roi'r gorau i olygu, fe gefais i'r fraint o fod yn gyd-olygydd gydag Olaf Davies oedd yn weinidog yn Llanybydder ar y pryd ac yna gyda Delor Hughes (James erbyn hyn) yn ogystal â threulio cyfnod yn olygydd ar fy mhen fy hun. Wedi'r flwyddyn gyntaf, roedd y papur yn rhedeg ei hun i raddau. Y gohebwyr o'r pentrefi yn danfon pethau ar amser, y gwaith golygu yn mynd yn ei flaen ac Elsie Davies (Reynolds bellach) yn teipio. Hyn i gyd mewn oes cyn-gyfrifiadurol.
Bu Pît Dafis Talgarreg yn gyfaill ffyddlon hefyd gan ddod i gysodi'r papur yn fisol ('pasto'r papur' roedden ni'n galw'r broses bryd hynny). Fe brynon ni gamera yn cynnwys ffilm ddu a gwyn at ddefnydd y darllenwyr gyda gwahoddiad i unrhyw un ei fenthyg er mwyn cofnodi digwyddiadau. Yn anffodus, yn ystod ambell i fis fe ddilëwyd pob llun oedd yn y camera wrth i bobl wasgu botymau anghywir! Yn aml fyddai dim syniad gennym pa luniau oedd wedi eu tynnu nes y byddai Eifion Davies yn eu datblygu yn ei ystafell dywyll yn Afallon, Drefach. Roedd un penwythnos o bob mis yn gorfod cael ei neilltuo i'r papur a doedd dim hyblygrwydd yn hynny o beth. Penwythnos Clonc!
Rhai o'r pethau sy'n aros yn y cof...
Rhifynnau dyddiol Eisteddfod Genedlaethol 1984.
Dyma'r rhifynnau mwyaf cyffrous i mi ymwneud â nhw yn ystod fy nghyfnod fel golygydd. Roedd peth o'r papur yn cael ei baratoi ymlaen llaw gyda phethau am yr ardal ond roedd y rhan fwyaf yn cael ei wneud o dan gyfyngiadau amser tynn, tynn a'r cyfan yn cael ei osod yn ei le mewn ystafell fach yng nghefn y pafiliwn. Roedd yna griw o bobl weithgar yn gwneud pob math o bethau - o adolygu pob drama, darlith a pherfformiad i grwydro'r maes yn chwilio am stori a chlecs. Roedd rhyw densiwn a chyffro yn yr awyr wrth i ni geisio cael popeth at ei gilydd, a'r tro hwn Cymru gyfan oedd ein 'bro'.
'Yr hen fart'.
Bu chwerthin mawr yn lleol ac ar y radio yn genedlaethol pan ymddangosodd y pennawd hwn yn y papur. Pobl wedi camddehongli'r ffaith mai cyfeirio at leoliad y farchnad yr oedd y pennawd!
Colofnau
Ymddangosodd colofnau rheolaidd megis 'Popian', oedd yn rhoi cyfle i ddisgyblion sôn am ddawnsfeydd ac ati ('gigs' fyddai'r gair erbyn hyn); colofn feddygol; colofn byd natur; colofn y beirdd... Bellach mae rhain wedi diflannu ond wrth gwrs mae pethau eraill diddorol wedi cymryd eu lle. Fel un sydd wedi ei magu yn y dref, mwynheais i'n bersonol ddarllen am 'Hen Siopau a Siopwyr Llambed' gan Maldwyn Hughes - stôr o atgofion manwl iawn.
Y croeso
Cofiaf y croeso diamod a dderbyniodd y papur pan ddaeth allan gyntaf nôl yn 1982 - croeso sydd yn dal yno yn yr ardal ar y dydd Iau cyntaf o bob mis.
A nawr...
Mae'r baban a anwyd 25 mlynedd yn ôl bellach wedi tyfu'n wraig hyderus, fywiog â'i hunaniaeth ei hun. (Ie, fel gwraig ifanc y gwelaf i Clonc er gwaethaf y logo o hen ddyn yn clustfeinio'n awchus - tybed a ydi hi'n bryd newid y ddelwedd hon?) Cefais y fraint o fod yn ei pharti pen-blwydd yn 21 oed a danfonaf nawr fy nghyfarchion ati yn chwarter canrif oed.
Llongyfarchiadau i'r holl weithwyr. Pen-blwydd hapus iawn i Clonc a phob dymuniad da i'r dyfodol.
Elin Williams