91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Y c么r yng nghapel pentref Gomer, Ohio. C么r Meibion yn America
Tachwedd 2006
Ar 么l amser hir o baratoi gofalus dros ben gan Hugh Williams, Ysgrifennydd C么r Meibion Dinas Bangor, daeth y diwrnod i'r c么r wireddu'r freuddwyd o deithio i'r Unol Daleithiau.
Aethant i ymweld 芒 Chicago, Madison Wisconsin, Fort Wayne Indiana a dau bentref a chysylltiadau Cymreig agos iawn yn Ohio.

Canodd y c么r yng Ng诺yl Fawr Geltaidd Chicago ac fe wnaed gymaint o argraff fel y daeth gwahoddiad yno eta gan neb llai na Maer Chicago.

Yr unawdydd efo'r c么r oedd y Mezzo Soprano Eleri Owen. Hefyd cafwyd eitemau gan Bob Thomas, un o aelodau'r c么r ac fe gafodd hyn dderbyniad gwresog iawn gan y dyrfa fawr a ddaeth i wrando. Fore Sul, 17 Medi, canodd y c么r mewn gwasanaeth yn Eglwys y Demi Chicago - capel enfawr sydd yn rhan o adeilad sawl llawr o eiddo'r eglwys a hwnnw yn llawn i'r gwasanaeth.

Ar 么l symud i Wisconsin cafwyd amser braf iawn yn Madison, Prifddinas y dalaith ac ymweld 芒'r 'Capitol' ac fe ddangoswyd gwerthfawrogiad y gwrandawyr i ganu y Cymry, yn enwedig gan fod nifer o Gymry wedi ymfudo i Wisconsin yn y ddeunawfed ganrif.

Cafwyd Cyngerdd yn Eglwys Sant Dunstan. Aeth y c么r ymlaen i dalaith Indiana a thref Fort Wayne lle cawsant dderbyniad gwresog iawn am bum diwrnod gan Paul a Carol Lewark, y teulu yn wreiddiol o Sir F么n ac yn dwyn yr enw Llywarch. Cafwyd gwasanaeth a Chyngerdd arbennig yn Venedocia. Yr oedd Swyddogion Capel Gomer yn ein disgwyl ac wrth gwrs digonedd o fwyd yn y traddodiad Cymreig!

Gwelwyd nifer o lyfrau yn y Gymraeg megis llyfrau cofnodion yr Ysgol Sul ac aelodaeth y capel. Diddorol oedd ymweld 芒'r fynwent a gweld y Gymraeg ar gymaint o gerrig beddau.

Cafwyd Cyngerdd yn y capel a thyrfa fawr o bobl yno gan gynnwys nifer o bobl Amish, sef y sect ryfeddol sydd yn byw heddiw fel yr oeddynt ganrif a mwy yn 么l heb geir ond car a cheffyl.

Nid oedd ganddynt drydan ond lampau olew, yn gwneud eu dillad eu hunain - pobl hynod grefyddol, ddistaw a pharchus dros ben.

Yn Venedocia cafwyd croeso mawr arall, mwy o fwyd a sgwrs gan ddisgynyddion y Cymry ddaeth yno i fyw. Roedd nifer fawr o'r pentref wedi dod i gyfarfod y c么r.

Rhyfeddol oedd gweld ffenestri lliw yr eglwys yn cynnwys sawl cofiant yn Gymraeg am y teuluoedd cynnar a sefydlodd y gymuned allan o'r goedwig i fod yn dir clir a ffrwythlon a hynny cyn dyddiau tractorau a pheiriannau, dim ond ceffylau a b么n braich.

Dychwelodd y c么r adref ar 么l pythefnos fythgofiadwy a chroeso tywysogaidd pawb yn yr Unol Daleithiau ac wrth gwrs sawl gwahoddiad i fynd yn 么l i ganu.

Yn ystod yr ymweliad canodd y c么r o dan arweinyddiaeth James Griffiths, Lowri Roberts Williams yn cyfeilio, Eleri Owen a Bob Thomas yn unawdwyr gyda Gwilym Lewis yn cyfeilio, Norman Evans yn canu unawd gyda'r c么r, a David Price a Dafydd Ellis yn cyflwyno.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy