Daeth 24 ohonom ynghyd a dwy gyn-athrawes sef Mrs Edwards (Saesneg) a Mrs
Griffiths (Gwyddoniaeth ).
Tywysodd Mr Gareth Isfryn Hughes y grŵp o amgylch
yr Ysgol ac mi oedd hyn yn brofiad reit emosiynnol wrth inni weld gymaint oedd y
dosbarthiadau wedi newid ers ein dyddiau ni.
Fe dynnwyd llu o luniau ac mi oedd y sgwrs yn ddi-stop. Yn hwyrach fe gyfarfuom
am bryd o fwyd yng Nghwesty'r Victoria, Borth a mawr fu yr hel atgofion a
chyfnewid cyfeiriadau tai ac e-byst.
Awgrymwyd y dylsem gyfarfod eto ymhen pum
mlynedd.
Ar y nos Sadwrn canlynol daeth criw bach at ei gilydd yng Nghwesty'r Eryl Môr
ac fe gytunodd pawb bod yr aduniad wedi bod yn llwyddiant mawr.
Hoffem ddiolch
i Mrs Margaret Lewis a Davida Burton Jones am holl drefniant yr aduniad a hefyd
i Mr Gareth Isfryn Hughes am oddef "llwyth o hen ferchaid yn ymdrebaeddu
mewn hiraeth".
|