Buont ers tua 3 mis yn trefnu'r daith a fydd yn para 12 diwrnod a byddant yn cychwyn am Sierra Leone ar 7 Chwefror. Gyda llai na mis i fynd maent i gyd yn cyffroi'n fawr. Hoffent gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r holl fusnesau lleol ac unigolion hael sydd wedi eu cefnogi'n ariannol ac a fu'n help mawr tuag at y daith, a hefyd am ddymuniadau da pobl yr ardal, yn enwedig wrth bacio bagiau yn y Co-op a Marks & Spencer cyn y Nadolig! Un o'u digwyddiadau codi arian llwyddiannus fu Bore Coffi yn yr ysgol adeg Diwrnod AIDS y Byd yn Rhagfyr, lle gwnaethant £150 gyda chefnogaeth gan lawer o'u ffrindiau a'r ysgol ei hun. Daeth Hywel Williams AS draw i'w cefnogi hefyd.
Yn ystod y daith byddant yn teithio o gwmpas Sierra Leone yn dysgu sut mae gwlad dlotaf y byd yn delio gyda her anterth HIV/AIDS.
Byddant yn rhannu syniadau gyda phobl leol ac yn dysgu llawer am y sefyllfa fel y gallant addysgu eu cyfoedion ymhellach ar ôl dod adref o'r daith.
Os oes gan unrhyw grwpiau lleol ddiddordeb mewn cael gweithdy ar y daith wedi iddynt ddychwelyd byddant yn hapus iawn i ddangos lluniau a siarad am y daith.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Branwen Niclas yn swyddfa Cymorth Cristnogol Bangor ar 01248 353574.
Hoffai Shauna, Catherine, Meredyth a Cai ddiolch i bawb a fu'n eu cefnogi, gan obeithio y cânt rannu eu hanesion gyda darllenwyr y Goriad wedi iddynt ddod yn ôl.
|