Dewiswyd yr enw hwn yn un peth am fod ffynnon yn tarddu o dan y capel. Mewn blynyddoedd a fu, roedd yn ffynhonnell ddiogel o ddŵr i drigolion Bangor. Ond wrth gwrs, mae'r enw hefyd yn cydio yn y ddelwedd o Iesu Grist fel Dŵr y Bywyd a chred yr eglwysi mai Iesu Grist yw'r unig un all dorri syched dyfnaf calon dyn. Bu'r Bedyddwyr Saesneg yn addoli yn yr adeilad hwn ers 1875, pryd y sefydlwyd yr achos gan aelod o Eglwys Penuel. Yn eu gwasanaeth olaf yno ar nos Sul, 22 Chwefror, trosglwyddwyd goriadau'r capel i'r Parchedig Dafydd Job, gweinidog yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg fydd yn addoli yno o hyn ymlaen. Sefydlwyd yr Eglwys Efengylaidd ym 1985, ac am y pymtheng mlynedd diwethaf bu'n cyfarfod yng Nghanolfan Gymuned y Garth. Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf yno ar 7 Mawrth. Ymhlith y gwahanol weithgareddau sy'n cael eu cynnal mae cwrs 'Esbonio Cristnogaeth' i'r rhai sydd am gael gwybod mwy am beth sydd gan Iesu Grist i'w ddweud wrthym heddiw. Mae croeso i bawb i'r gweithgareddau, a gobeithiwn y bydd Capel y Ffynnon yn dod yn enw cyfarwydd ym Mangor a'r cylch cyn bo hir. Am fwy o fanylion cysyllter â'r Parchedig Dafydd Job ar 01248 361117.
|