Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r cwmni, sydd a safleoedd ym Methel a Cherrigydrudion, wedi datblygu'n un o werthwyr ceir ail-law mwyaf Gwynedd. Dyma gyfle arbennig i ddarllenwyr y Goriad ddod i nabod mwy ar un o gyd-berchnogion y busnes, Gari Wyn o Benrhosgarnedd. O ble daeth y diddordeb mewn ceir? Pan oeddwn yn blentyn yng Nglasfryn, Uwchaled, ceir a busnes oedd y pwnc trafod o gwmpas y bwrdd bwyd. Trwsio ceir a gwerthu ambell un oedd bywyd fy nhad ac er imi ddilyn gyrfa fel athro am 13 mlynedd, mae'n debyg mai gwir yw geiriau Cynan: "Unig uchelgais llanc o'r wlad yw torri cwys fel cwys ei dad." Beth wnaeth i chdi gefnu ar yrfa fel athro a mynd yn werthwr ceir ail-law? Rydw i wedi credu erioed na ddylai rhywun dreulio ei holl fywyd yn gwneud yr un peth. Roedd gen i deimlad hefyd y gallwn gyflawni mwy drwy droi yn gyfalafwr. Mi fwynheais fy nghyfnod yn y byd addysg ond rydw i'n mwynhau fy ngyrfa mewn busnes yn llawer mwy at ei gilydd, er 'mod i'n gaeth iawn i waith ac oriau hir. Ydy hi'n werth prynu car newydd sbon erbyn heddiw? Pa fath o geir ddylai darllenwyr y Goriad eu prynu? Rydw i'n ffodus yn y ffaith 'mod i'n credu yn amcanion fy musnes. Credais erioed fod prynu car newydd yn beth ffôl yn wyneb y ffaith fod y mwyafrif o geir Prydain yn colli tua 30% yn eu gwerth yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae rhai mathau o geir yn cadw eu prisiau'n well na'i gilydd ac mae staff gwerthu Ceir Cymru yn ceisio cynghori ein cwsmeriaid beth yw'r pryniant doethaf iddyn nhw yn ôl eu hanghenion personol. Sut wyt ti'n gweld dy rôl fel gŵr busnes lleol? Efallai mai'r hyn sy'n cynnal fy nghymhelliant mewn busnes ydy'r ffaith fod cyn lleied o Gymry Cymraeg yn y maes. Mae'r system addysg ar fai ac mi hoffwn hybu'r awydd mewn Cymry ifanc i fentro mwy. Mae byd busnes yn ddifyr ac amrywiol ac yn cynnig gwobrau mwy nag arian yn unig. Does dim teimlad brafiach na theimlo eich bod wedi llwyddo i wneud rhywbeth yn effeithiol ar eich liwt eich hun, yn enwedig felly os ydy eich menter yn cynnig bywoliaeth i nifer o bobl o'ch cwmpas. Mae gwneud elw ariannol yn rhoi boddhad ond mae gweld ffrwyth i'ch gwaith yn rhoi mwy o bleser. Beth mae Gari Wyn yn ei wneud pan nad ydy o'n gwerthu ceir? Fy mhrif ddiddordeb ar wahân i fusnes ydy hanes; hanes bro fy mebyd a hanes Cymru. Mi fydda i'n dal ati i gasglu a chwilota ac yn cael pleser mawr o wneud hynny. Fel y gŵyr ambell un, mi fydda i hefyd yn casglu memorabilia Cymreig (megis trôns yr actor Rhys Ifans o'r ffilm Notting Hill a gitâr o eiddo'r Manic Street Preachers), a rhyw ddiwrnod, mi rydw i'n gobeithio cyflwyno'r casglad tuag at ryw achos penodol. Fel un a fu'n fyfyriwr ym Mangor yn ystod y saithdegau, sut wyt ti'n gweld y ddinas wedi newid erbyn heddiw? A minnau wedi bod ym Mangor ers 30 mlynedd rydw i wedi gweld llawer iawn o newid. Mae sefydliad y Brifysgol wedi niweidio Cymreictod ac mae dyfodiad y siopau cadwyn ar gyrion y ddinas wedi difa llawer o fusnesau bychan cynhenid. Mae'r siopau mawrion hyn yn elwa ar y farchnad stoc yn Llundain ac ychydig iawn maen nhw'n ei roi yn ôl i'r ardal. Fe hoffwn i weld y Cynghorau yn atal datblygiadau fel hyn ac yn meddwl am y tymor hir cyn bod mwy o niwed yn cael ei wneud. Oes 'na siawns am ddisgownt i ddarllenwyr y Goriad yn Ceir Cymru? Mi ddylai un o olygyddion y rhifyn hwn wybod yr ateb i'w gwestiwn! Tasa fo'n edrych ar y fargen gafodd o acw yn ddiweddar fe ddylai gydnabod fod pawb yn ddiwahân yn cael cythrel o fargen pan fyddan nhw'n prynu cerbyd gan y bechgyn ym Methel!!
|