Mi fydd yn benwythnos enfawr o gerddoriaeth
roc, indie, funk, acwstig a phop, y cwbl yn cael ei ddarlledu'n fyw o Fangor, ac mae disgwyl i dros 40,000 0 bobl fynychu'r achlysur.
Mae'r newyddion fod Cyngor Gwynedd
wedi bod yn llwyddiannus yn denu 'Big Weekend' Radio 1 i'r Faenol ger Bangor wedi'i groesawu gan gynghorwyr lleol
Plaid Cymru.
'Mae'n wych y bydd pobl ifanc (a rhai ddim mor ifanc!) yn cael cyfle i fwynhau digwyddiad fel hwn ar stepan y drws/ meddai'r Cynghorydd Sian Gwenllian sy'n cynrychioli Y Felinheli.
'Mae hwn yn llawer mwy na darllediad byw fydd yn cae1 ei glywed ar draws y byd - mae hefyd yn ddigwyddiad gyda llu o weithgareddau ymylol ac mae modd inni roi blas Cymraeg yr ardal arno/ ychwanega.
Mae'r Cynghorydd John Wyn yn gweld cyfle i roi 'hwb economaidd sylweddol i'r ardal ar gychwyn y tymor ymwelwyr ac yn gyfle i
rai gwybod i bobl ar draws Prydain a thu hwnt am Wynedd ac Eryri'.
Mae John Wyn Williams wedi cael ar ddeall y bydd hyd at 200 0 staff Radio 1 yn ymweld a'r ardal yn rheolaidd dros y misoedd nesaf ac wrth gwrs mi fydd pob un angen llety a bwyd!
Mae manteision eraill hefyd wrth i ddwsinau o newyddiadurwyr o bob rhan o'r byd ddod yma ac ysgrifennu am yr ardal.
Mae pawb yn cytuno y bydd y digwyddiad yn ein hatgoffa fod Gwynedd yn lle da i fyw a gweithio.
Felly rocyrs hen ac ifanc, ymbaratowch a heidiwch i'r Faenol i fwynhau eich hunain yn ystod penwythnos mawr Mai 23 a 24ain!
|