Aeth Nia allan i Awstralia ym mis Ionawr, heb syniad beth oedd o'i blaen gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddi hedfan yn ogystal â'r tro cyntaf i hedfan o'r wlad. Wedi cyrraedd Sydney daeth ar draws geneth o'r De oedd yn trafaelio ar ben ei hun. Aethant gyda'i gilydd i Melbourne a gweithio yno am ychydig yn casglu ffrwythau. Bu iddynt brynu car ail-law a ffwrdd â nhw i Perth ar ôl ambell i ddamwain ar y ffordd. Cael seibiant bach ac yna i Ayers Rock. Yr oeddynt wedi ymladd ar ôl dringo. Ymlaen i Alice Springs, lle cawsant gynnig gwaith gan fod yr arian yn dechrau rhedeg allan erbyn hyn. Roedd y Cyngor lleol yn cynnal Reservation i'r Aborigines mewn lle anghysbell ac angen rhywun i gymryd gofal o'r Siop rhywbeth tebyg i Tesco neu Kwiks ond llawer iawn llai. Derbyniodd y ddwy y gwaith heb syniad beth oedd o'u blaen. Yr unig ffordd i gyrraedd yno oedd hedfan o Alice Springs. Y mae'r Aboriginies yn cael bywyd braf dim yn poeni am weithio ond disgwyl am eu giro ac yna yn syth i'r siop i brynu bwyd a diod (dim alcohol). Dywed Nia nad ydynt yn hoffi dwr a phrin maent yn 'molchi ac yn ogleuo yn ofnadwy. Treuliwyd bron i fis yno a gwelwyd mwy o gwn na phobl. Rhaid oedd disgwyl am awyren i'w cludo yn ôl i Alice Springs. Roedd y car wedi bod yn sefyll am bron i fis, ond tydi peth felly yn poeni dim ar y bobl ifanc ma! I ffwrdd â nhw i Darwin yn y Gogledd siwrnai faith a lôn diddiwedd. Yn anffodus, torrodd y car i lawr - big end neu rywbeth costus. Daeth gwr bonheddig heibio a mynd â nhw i'r dref agosaf. Cawsant groeso mawr gan y teulu a phryd o fwyd ardderchog cig oen fel cinio dydd Sul gartref. Eu bwriad yw mynd i Gairns i gael gwersi Scuba Diving ond clywed wedyn eu bod yn Fraser Island ac wedi gwirioni hefo'r lle. Bellach, daeth yr amser iddynt wneud eu ffordd am Sydney a hedfan gartref i Gymru fach. Erbyn i'r erthygl yma ymddangos bydd Nia wedi hen gartrefu yn y Felinheli ac wedi mynd i'r Coleg yn Lerpwl.
|