Dyma'r math o sgwrs yr oeddwn i'n ei chael bob hyn a hyn:"O ble wyt ti'n dod?"
"O Belfast."
"Ha ha - o ble wyt ti'n dod go iawn?"
"O Belfast."
"O, wel, o ble wyt ti'n dod yn wreiddiol?"
"O Belfast."
"Wel, ble buest ti'n byw wedyn?"
"Yn Belfast."
Roedd y cwestiynau a ddilynai wedyn yn amrywio o "Wnei di siarad ychydig bach o Saesneg, te?" i "Wyt ti'n nabod pobl yn yr IRA?" Yr ateb i'r cwestiwn olaf yw "Na, diolch byth!", ond mae'n siŵr i'r sefyllfa wleidyddol yng Ngog1edd Iwerddon effeithio ar fy mywyd wrth i mi dyfu.
Ces i fy ngeni a'm magu yn Belfast, a bûm i'n byw yno am ddeunaw mlynedd. Ces i fy magu'n ddwyieithog, yn siarad Cymraeg gyda fy mam a Gwyddeleg gyda fy nhad. Dysgais i Saesneg yn ddiweddarach, wrth chwarae gyda phlant Saesneg eu hiaith yn yr Ysgol Gynradd. Felly, rwy'n siarad Gwyddeleg a Saesneg gydag acen Gogledd Iwerddon a Chymraeg gydag acen de Cymru (gan mai un o Abertawe yw fy mam).
Roeddwn i'n ymwybodol o oedran ifanc iawn fod yn rhaid i mi fod yn ofalus. Yn ofalus rhag bomiau mewn mannau cyhoeddus, ac yn ofalus rhag pobl fyddai'n ymosod arnaf i neu ar fy nheulu oherwydd ein cefndir crefyddol.
Pan ddes i Gymru yn ddeunaw oed roedd yn braf iawn byw mewn cymdeithas lle nad oedd angen poeni am y fath sefyllfa wleidyddol. Roeddwn i wedi treulio llawer o amser ar wyliau yng Nghymru cyn dod i'r Coleg, ac roeddwn i'n falch o'r cyfle i ddod i fyw yma a dod i adnabod y wlad a'i phobl yn well.
Dilynais gwrs BA ac MA mewn cerddoriaeth yn y Brifysgol, ac wedyn treuliais flwyddyn yn Llydaw yn dysgu Saesneg mewn Ysgol Uwchradd. Wnes i ddim aros draw yn hir. Dod yn ôl i Fangor i ddilyn cwrs ymarfer dysgu fu fy hanes, a ches i gyfle i dreulio cyfnod yn Ysgol Hirael ar brofiad dysgu. Yn dilyn hynny dechreuais ar swydd yn y Brifysgol yn gweithio ar brosiect arloesol i greu llyfr ymadroddion a geiriadur Cymraeg Gwyddeleg ar-lein.
Mae'n brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru, Bangor, a Choleg Prifysgol Dulyn, ac mae'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Bwriad y prosiect yw helpu'r Cymry a'r Gwyddelod i ddysgu ieithoedd ei gilydd, a dysgu mwy am wledydd ei gilydd, heb orfod gwneud hynny trwy gyfrwng y Saesneg.
Rwy' n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y gwaith hwn, gan hybu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad rwy'n perthyn iddyn nhw. Efallai yn y dyfodol na fydd hi mor anghyffredin i bobl siarad Gwyddeleg a Chymraeg gydag acenion gwahanol!