Yno, ar nos Iau, 26 Mai, y cynhaliwyd Sioe Ffasiwn Masnach Deg - y gyntaf o'i bath ym Mangor - er mwyn codi arian tuag at Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005, a chafodd pawb a fu yno wledd i'r llygad. Pwyllgor Apêl Dinas Bangor oedd wedi trefnu'r noson. Roedd yno dros ugain o fodelau lleol o bob oed yn dangos amrywiaeth o ddillad lliwgar a hardd, dan arweiniad dwy gyflwynwraig ddeheuig y noson, Branwen Niclas a Modlen Lynch, a oedd eu hunain yn gwisgo rhai o'r dillad ac yn werth eu gweld. Eglurwyd fod y cwbl o'r dillad yn rhai a oedd wedi'u masnachu'n deg, ac wedi'u gwneud yn bennaf yn Asia. Roeddynt ar fenthyg o siop Kingdom Crafts, Llandudno, a chan gwmnïau Smilechild a People Tree. Dyma'r tro cyntaf i'r rhan fwyaf a oedd yn bresennol ddeall bod yna'r fath beth â dillad organig! Roedd cyfle ar y diwedd i brynu'r dillad, a chyfle hefyd i brynu amrywiaeth o nwyddau ar y stondin Fasnach Deg ynghyd â stondinau eraill. Darparwyd coffi a bisgedi yn ogystal, ac aeth amryw o bobl adref yn gwisgo un o'r breichledau bach gwyn a oedd ar werth ar y noson, ac arnynt y geiriau 'Rhown derfyn ar dlodi'. Llwyddwyd i godi cyfanswm o dros £500 at yr Eisteddfod, er llawenydd mawr i brif drefnwyr y sioe, Branwen Niclas a Catrin Pari, a chafodd pawb noson werth chweil yn y fargen.
|