Roedd yn gorfod cadw at y gadair olwyn a gafodd i fynd ar wyliau yn Florida ddwy flynedd yn ôl. Ond ddiwedd y mis diwethaf cafodd ganiatâd i ail ddechrau defnyddio'i gerbyd sy'n llawer caredicach i'rdwylo. "Roeddan nhw'n poeni am y sêt ar hwn a'r effaith fyddai hi'n ei gael ar y goes. Ond diolch am gael ail ddechra' efo hwn. Dwi'n medru mynd fy hun i ben draw'r pier heb orfod brecioefo fy nwylo," meddai. Bu Gwyndaf yn Bostman yn ardal Bangor am ugain mlynedd a rhagor nes iddo gael trafferth efo'i glun chwith a gorfod rhoi'r gorau i weithio. Ddeufis yn ôl cafodd driniaeth saith awr yn Gobowen i gryfhau asgwrn y glun. Yn ddiweddarach eleni mae'n gobeithio cael gosod dun newydd yn yr asgwrn sydd wedi ei addasu gan arbenigwyr yr ysbyty. Ond cyn hynny bydd yn mynd i Gobowen eto i gael clun newydd ar y goes dde. "Dwi newydd glywed mai'r mis nesai fydd hi rŵan, er mai'r mis yma oeddan nhw wedi'i ddeud." Ar ôl i honno wella mae'n gobeithio cael cwblhau'r driniaeth ar y goes arall. "Mae nhw wedi deud y bydd hi'n bosib i mi fynd efo un ffon erbyn y 'Dolig. Gawn ni weld be' ddigwyddith."
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |