91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Aled Jones yn derbyn tystysgrif Aled yn aelod o CPD Bangor
Mai 2007
Bu'r tymor yma yn garreg filltir i Gymdeithas Cefnogwyr CPD Dinas Bangor wrth iddi lwyddo i gyrraedd ei tharged o 500 aelod.
Yn ystod y tymor, ymaelododd yr AS Betty Williams a'r AC Denise Idris Jones â'r gymdeithas, ond cafodd y fraint o fod y pum canfed aelod ei roi i'r canwr o Landegfan, Aled Jones.

Ysgrifennodd y canwr yn ei hunangofiant iddo fod yn gefnogwr eithaf selog i'r Dinasyddion pan oedd yn fachgen a'i fod yn parhau i ddilyn hynt a helynt y clwb.

Cyflwynwyd tystysgrif yn cofnodi ei aelodaeth arbennig i Aled Jones cyn ei gyngerdd diweddar yn Theatr y Pafiliwn Rhyl. Yn bresennol yr oedd Geraint Jones (Is-gadeirydd y Gymdeithas), Nigel Pickavance (Ysgrifennydd) ac Ian Thomas (Swyddog Raffl).

Mae'r gymdeithas wedi cyfrannu dros £15,000 i goffrau'r Clwb Pêl-droed eleni, a bydd y gweithgareddau yn parhau dros yr haf gyda Ras Hwyaid ar 7 Mai a Thwrnamaint Pêl-droed i blant ac oedolion ar 7/8 Gorffennaf.

Ar sail nifer yr aelodaeth, mae'r gymdeithas hefyd wedi ymaelodi â Ffederasiwn y Cefnogwyr Pêl-droed, yr unig glwb o Gynghrair Cenedlaethol Cymru i wneud hynny.

Cewch fwy o wybodaeth am waith y gymdeithas ar ei gwefan (www.bcfcsa.com) neu gan Nigel Pickavance ar 07944 694801.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý