Ym mis Ionawr, cafodd y Côr Ieuenctid yr anrhydedd o ganu'r anthem genedlaethol ynghyd a Chôrdydd, Caerdydd wrth i Gymru herio'r Saeson ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Hefyd yn ystod y mis bu'r côr yn perfformio o Fortuna, prif gân yr albwm newydd, yn fyw ar raglen ITV, The Alan
Titchmarsh Show.
Yn y cyfamser, teithiodd y Côr Iau i Aberystwyth er mwyn cystadlu yn rownd gynderfynol Côr Cymru 2009.
Wrth ddwyn i'r cof y profiad o ganu yn y stadiwm genedlaethol, dywedodd Siôn Emyr, aelod o'r Côr Ieuenctid a chefnogwr rygbi o fri, "Roedd yr holl beth yn brofiad anhygoel.
"Roeddan ni gyd fel plant bach cyn i ni fynd ar y cae. Dwi'n cofio dod drwy'r twnnel sy'n cael ei alw'n 'Ceg y Ddraig' a chyrraedd y maes.
Ddechreuon ni ganu'r caneuon cynta', ac wrth i ni ganu roedd y stadiwm yn llenwi mwy a mwy. Erbyn i ni gyrraedd y medli, roedd y sŵn yn fyddarol.
"Wedyn daeth bois Cymru 'mlaen ac roedd hi'n amser canu'r anthem. Dwi
ddim yn gallu disgrifio'r teimlad yna, roeddan ni gyd mor falch o fod yn Gymry ac roedd yn anodd cadw rheolaeth ar yr emosiwn!
"Roedd y dorf i gyd ar eu traed ac roedd rhedeg oddi ar y maes gyda 74,500 yn clapio ac yn bloeddio yn brofiad bythgofiadwy.
"Ar ôl hyn i gyd, gawson ni wylio'r gem ac wrth gwrs Cymru aeth a hi, felly mwy fyth o achos dathlu!"
Ychwanegodd Rhian Roberts, cyd-
sylfaenydd Ysgol Glanaethwy, "Roedd bod yna i weld y côr yn perfformio yn ein stadiwm genedlaethol yn brofiad
ffantastig ac roedd ymateb y dorf yn wych.
"Roeddwn wrth fy modd yn gweld wynebau'r myfyrwyr. Mae adegau fel hynny'n gwneud i fyny am yr oriau o waith caled. Gobeithio i ni ysbrydoli'r tîm am weddill y bencampwriaeth."
|