Ond nid felly y bu, gan na chyraeddasom ni tan ddiwedd y pnawn ddydd Sadwrn!
Sut felly? Wel, nid Bangor Fawr yn Arfon yr oeddem yn ei chyrchu ond cyffiniau Bangor, Saskatchewan, Canada, gan aros nos Fercher gyda chyfeillion yn Yr Wyddgrug a fyddai'n gwarchod y car a'n cludo i faes awyr Manceinion inni gael hedfan i Calgary fore dydd Iau. Gan fod y doc bellach yn ein dilyn, 'roeddem yn cyrraedd Calgary fore dydd Iau hefyd! Pedwar aelod o'r teulu yn disgwyl amdanom yno, ac aros gydag un ohonynt tan fore dydd Gwener, ac wedyn cychwyn yng nghwmni'r tair arall am Saltcoats, tref fechan ychydig filltiroedd o ardal Bangor, Saskatchewan, gwaith rhyw ddwy awr o yrru i'r gogledd-orllewin o Regina, lle'r oedd cnewyllyn bychan o'r teulu bellach wedi ymgartrefu. 'Roedd hon yn daith o ryw bum can milltir, neu yn ôl nhw, roedd Calgary Just down the road! Cawsom weld Amgueddfa fyd-enwog Deinosoriaid Tyrrell ar y ffordd yn Drumheller - ond nid i weld fy hynafiaid y deuthum, ond i weld adain o'm teulu dynol yn Saltcoats.
A phwy yw'r teulu hwn? Wel, cefais i fy ngeni a'm magu yn West End, ar waelod Penchwintan ym Mangor, yn fab i William a Mary Hughes, ac 'roedd fy nhad yn fab i William Hughes, Bryn Hyfryd, Capel Graig, a fu'n brif arddwr yn y Faenol, ac yn ôl pob tebyg, yn godwr canu am gyfnod yng Nghapel y Graig, Pe' rhos (Ni fyddai brodor o Fangor byth yn ei alw'n 'Penrhosgarnedd').
Roedd gan fy nhaid, William Hughes, frawd o'r enw John, hwnnw hefyd yn arddwr a hyfforddwyd yn y Faenol. (Mae'n debyg imi gael f'enwi'n John ar ei ôl.) Sut bynnag, fe briododd y John hwn ag Elizabeth Trailor yn 1902 yn Eglwys Glanadda, a'm taid yn was priodas iddynt. Yr oedd hi'n Saesnes yn hanu o'r Amwythig ac yn gofalu am blant rhyw deulu yng nghyffiniau Capel Graig.
Tra 'roeddwn yng Nghanada, dangoswyd lluniau imi o'r lle 'roedd hi'n gweithio. Tybed ai fferm y Bryniau oedd? Mae gennyf frith gof o ryw deulu o'r enw Lort neu Lord o'r ardal hefyd, ac fe grybwyllwyd yr enw hwn wrthyf yng Nghanada. Tybed a oes rhywun o'r darllenwyr yn gwybod beth yw'r hanes? Byddwn wrth fy modd yn cael gwybod.
Gadawodd y pâr ifanc am Ganada ar eu mis mêl a chyrraedd Winnipeg lle ganed Hughie, eu mab cyntaf, yn 1903, cyn symud ymlaen i ardal Bangor, Saskatchewan ac ymuno â charfan o Gymry a ddaethai yno o Batagonia ryw flwyddyn ynghynt.
Mae'n rhaid bod mis mêl John ac Elizabeth wedi bod yn llwyddiannus gan y ganed saith yn rhagor o blant iddynt. Dwy yn unig sydd wedi goroesi, sef Gwen, 89 oed, sydd yn byw yn Saskatoon, a Violet, 85, sydd yn byw yn Saltcoats, a'r ddwy mor fywiog â gwenci. Hwy yw fy mherthnasau agosaf yng Nghanada.
Cynhaliwyd aduniad teulu'r Hughesiaid tra 'roeddem yn Saltcoats, ac yn wir, cawsom gyfle i gyfarfod ag o leiaf 71 ohonynt, a rheini wedi dod o bob cyfeiriad - Montreal, Winnipeg, Saskatoon, Calgary ac Edmonton yn ogystal â lleoedd yng nghyffiniau Saltcoats megis Bangor, Melville a Yorkton.
Cynhaliwyd gwasanaeth yn Eglwys Unedig Ddiwygiedig Bethel yn Llywelyn fel rhan o'r aduniad, a'r capel yn gyfforddus o lawn am y tro cyntaf ers yr aduniad diwethaf a gynhaliwyd yn 1995, pan fu fy niweddar frawd Francis a'i wraig Marina yno. Profiad rhyfedd a chwithig oedd clywed y gynulleidfa'n canu Hen Wlad fy Nhadau fel emyn yn ystod y gwasanaeth - a hynny yn Saesneg! (Ac eithrio fi a'm gwraig, Beryl). "O bydded i'r hen iaith barhau" wir!
Ysywaeth, er bod y rhan fwyaf o'r teulu yn ymwybodol o'u tras Gymreig, nid oedd gan neb ohonynt fawr fwy nag ychydig o eiriau o Gymraeg, a rhyw grap ansicr ar "Gee ceffyl bach ..." Gyda llaw, aeth brawd arall i'm taid a John Hughes i Ganada, sef Tommy, yn ôl Gwen o Saskatoon. Bu'n cadw tŷ^ bwyta yng nghyffiniau Winnipeg, mae'n debyg, ond bod y teulu wedi colli cysylltiad ag ef ers tro'n byd. Oes rhywun ym Mangor yn gwybod beth ddaeth ohono?
Gallwn adrodd am ddegau o brofiadau diddorol eraill a gawsom yn ystod ein hymweliad, ond gwell tewi bellach, rhag ofn imi achosi syrffed arnoch i gyd!
John M. Hughes, Llanfihangel Genau'r Glyn, Aberystwyth.