91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Golygfa o Fangor o Fôn Pobl Môn yn erbyn pentref myfyrwyr
Chwefror 2006
Pan fu cyfarfod ym Mangor i sôn wrth rai o bobl y cylch am neuaddau newydd y mae'r Brifysgol am eu codi roedd carfan gref yno o Sir Fôn i leisio'u barn.
Hwn fydd pentref y myfyrwyr a godir ar y cae rygbi wrth Maes Glas. Gwalia, cymdeithas dai o Gaerdydd fydd yn gyfrifol am y datblygiad os bydd yn cael caniatâd terfynol. Roedd eu Swyddogion hwy a'r Coleg yn y cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas Trigolion Bangor Uchaf.

Ond roedd cynrychiolwyr Cymdeithas Ddinesig Porthaethwy a'r Cylch a Chyngor Diogelu Cymru Wledig yn fwy gwrthwynebus na neb i'r datblygiad. Sbardunwyd hyn oherwydd bod rhai sy'n byw yr ochr draw i'r Fenai yn dal yn ffyrnig yn erbyn un o'r Neuaddau diwethaf i'r Coleg ei chodi. Mae hon i'w gweld yn glir uwchben y coed o gyfeiriad yr Ynys, er i'r coed dyfu llawer yn y cyfamser.

Eisoes mae'r cynlluniau gwreiddiol wedi eu newid i godi Neuaddau pedwar llawr yn lle pump. Unwaith y byddent wedi eu hadeiladu byddai Neuaddau Emrys Evans a Plas Gwyn yn cael eu dymchwel.

Byddai'r datblygiad yn gwneud llawer o wahaniaeth i Ffordd Ffriddoedd. Gall olygu y bydd cynnydd mewn trafnidiaeth drwm adeg yr adeiladu. Unwaith y byddai'r 1,080 o fyfyrwyr wedi symud yno byddai ffordd yn debyg o fod yn llawer prysurach.

Caniatâd amlinellol a roddwyd i'r cynllun hyd yma gan y Cyngor Sir. O 6 Chwefror am wythnos mae'r cynlluniau i'w gweld yn Swyddfa Stadau'r Brifysgol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý