91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Woolworths Ffarwel Woolworths
Ionawr 2009
Mae effeithiau'r wasgfa gredyd yn amlwg iawn ar Stryd Fawr Bangor.

Ddechrau'r mis caeodd Woolworths ei ddrysau am y tro olaf, gyda bron i hanner cant o staff yn colli eu gwaith.

Daeth y newyddion hefyd fod siop ddillad plant Adams y drws nesaf i Woolworths i gau, yn ogystal a Card Warehouse i fyny'r stryd.

Mae arwyddion 'Closing Down' i'w gweld yn ffenestri sawl siop arall hefyd.

Mae hyn ôll yn ergyd galed i Fangor ac i'r ymdrechion diweddar i ddatblygu canol y ddinas a thynnu mwy o bobl yno.

Mae'n anodd dychmygu'r Stryd Fawr heb Woolworths. Agorodd yr Woolworths presennol ar ddiwedd y 1930au.

Un sydd ag atgofion am y lle yw Mrs Mair Thomas, Ffordd Penchwintan, sy'n cofio mynd yno yn ei harddegau.

Mae Mrs Thomas yn cofio merched ychydig hÅ·n na hi yn gweithio yno, ac yn cofio bod yno wahanol gownteri drwy'r siop yn gwerthu gwahanol bethau.

Mae hi hefyd yn cofio Woolworths fel man cyfarfod poblogaidd i bobl ifanc - yr arfer oedd ymgynnull y tu allan i'r siop a mynd i mewn cyn iddi gau.

'Mi allach chi brynu bran unrhyw beth yno - par o sbectol neu rywbeth oeddach chi isio. Ac wrth gwrs, y fferins, a siocled - dwi'n cofio Cadburys a Fry's yn arbennig.'

Parhaodd y fferins, yn arbennig y pick'n'mix enwog, yn nodwedd o'r siop ar hyd y blynyddoedd.

Fodd bynnag, symud i ymyl y Cloc o safle arall a wnaeth Woolworths. Roedd siop wreiddiol Woolworths ychydig i lawr y stryd, dros ffordd i'r Peacocks presennol.

Tybed faint o ddarllenwyr y Goriad sy'n cofio honno? Os oes gennych atgofion neu hyd yn oed luniau o'r siop wreiddiol, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Yn sicr, bydd bwlch mawr ar ôl y siop adrannol hon. Ei gogoniant oedd ei hamrywiaeth. Roedd siopau teganau yn brin ym Mangor cynt a maent yn brinnach rŵan. Felly hefyd siopau sy'n gwerthu pethau cegin a dillad gwely, ac roedd ei hadran crynoddisgiau a DVD yn atyniad i lawer, yn enwedig pobl ifanc.

Tybed beth ddaw yn ei lle hi? Dafliad carreg o Woolworths, mae Theatr Gwynedd wedi cau a chynlluniau ar draed i godi canolfan gelfyddydol newydd.

Oni fyddai'r man lle saif Woolworths ac Adams yn lleoliad gwych ar gyfer y fath ganolfan Os yw ein cynghorwyr a'r awdurdodau o ddifri ynglÅ·n a bywiogi canol y ddinas, onid yw hwn yn syniad gwerth ei ystyried?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý